Vaughan Gething AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae Cynllun Gweithredu Bwydo ar y Fron Cymru Gyfan yn cael ei gyhoeddi heddiw. Mae bwydo ar y fron yn bwysig i iechyd a datblygiad babanod a'u mamau, ac mae cysylltiad rhwng bwydo ar y fron ac atal anghydraddoldebau iechyd mawr. Mae bwydo ar y fron yn helpu i roi'r dechrau gorau mewn bywyd ac rwyf eisiau i bob mam a phob teulu gael mynediad i wybodaeth o'r safon uchaf er mwyn gallu gwneud dewis gwybodus, ac yna bod cefnogaeth o safon yn cael ei roi iddynt beth bynnag fo'u dewis.
Rwy'n cydnabod bod cyfraddau bwydo ar y fron wedi aros yn weddol sefydlog yng Nghymru yn y blynyddoedd diwethaf ac rwy'n gwybod bod hwn yn fater amlweddog sy'n ymwneud ag iechyd y boblogaeth ac sy'n effeithio ar ddechrau bwydo ar y fron a dal ati i wneud hynny.
Mae'r cynllun gweithredu hwn yn darparu dull wedi'i gydlynu ar gyfer lleoliadau iechyd y cyhoedd a chlinigol yng Nghymru i helpu mamau i ddewis bwydo ar y fron, dechrau bwydo ar y fron a dal ati i wneud hynny. Mae hefyd yn rhoi atebion arloesol i deuluoedd yng Nghymru. Mae'r cynllun hwn yn nodi camau i'w cymryd mewn lleoliadau iechyd clinigol ar ddechrau oes y baban, ac yn nodi'r dull strategol i'w ddefnyddio i wella'r niferoedd sy'n bwydo ar y fron a'r gefnogaeth ar gyfer bwydo ar y fron ym maes iechyd y boblogaeth.
Datblygwyd y cynllun gweithredu hwn gan grŵp o randdeiliaid, mamau a theuluoedd yng Nghymru i ddatblygu camau gweithredu lleol a chenedlaethol i ddarparu fframwaith cryf i gefnogi menywod sy'n bwydo ar y fron a'u plant. Bydd yn cynorthwyo menywod a theuluoedd i wneud penderfyniad ar sail gwybodaeth ynglŷn â'u dewisiadau o ran bwydo eu babanod, dechrau bwydo ar y fron a pharhau i wneud hynny am cyhyd ag y maent yn dymuno.
Mae modd gweld Cynllun Gweithredu Bwydo ar y Fron Cymru Gyfan drwy ddilyn y ddolen ganlynol: