Ken Skates AC, y Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth
Mae'n bleser gennyf gyhoeddi estyn rhaglenni Cymunedau am Waith a Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth (PaCE), a gefnogir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop. Bydd y ddwy raglen yn parhau i redeg hyd nes 30 Mehefin 2022 nawr. Bydd y penderfyniad hwn yn golygu £23,430,502 ychwanegol o gyllid yr UE ar gyfer rhaglen Cymunedau am Waith a £5,622,165 ar gyfer PaCE, gan olygu bod cyfanswm o £123 miliwn wedi'i fuddsoddi yn y ddwy raglen dros eu hoes.
Mae Cymunedau am Waith yn helpu'r rhai sydd bellaf o'r farchnad lafur, sy'n byw yng nghymunedau mwyaf difreintiedig Cymru, pan fo gobaith realistig o'u symud yn nes at waith ac i gyflogaeth. Mae'r rhaglen yn defnyddio dull gweithredu sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, gan gynnig cefnogaeth gyfannol i fynd i'r afael ag amrywiaeth o rwystrau cymhleth sy'n wynebu'r rhai sy'n cymryd rhan.
Mae PaCE yn helpu rhieni yn benodol i gael gwaith neu hyfforddiant lle mai gofal plant yw'r prif rwystr rhag cael mynediad i fyd gwaith. Mae'r rhaglen yn helpu rhieni 25 oed a throsodd sy'n economaidd anweithgar, a rhieni 16-24 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant.
Rhoddwyd Cymunedau am Waith ar waith ym mis Mai 2015, a chyflwynwyd PaCE erbyn mis Ebrill 2016. Daeth rhaglen Cymunedau am Waith a Mwy yn weithredol ym mis Ebrill 2018, i gefnogi seilwaith Cymunedau am Waith ac i ddarparu cymorth dwys i unigolion nad ydynt yn gymwys ar gyfer Cymunedau am Waith, PaCE nac unrhyw ddarpariaeth arall a ariennir gan yr UE. Ynghyd â PaCE, y tair rhaglen hyn yw Rhaglenni Cyflogadwyedd Cymunedol Llywodraeth Cymru.
Hyd at 31 Mai 2019, mae cyfanswm o 34,636 o bobl wedi cymryd rhan yn un o'r tair rhaglen ac 11,894 ohonynt wedi cael swyddi.
Gan weithio yng nghanol ein cymunedau, mae'r rhaglenni hyn yn ategu lansiad Cymru'n Gweithio ym mis Ebrill i sicrhau bod gwasanaeth personol, cyflawn yn cael ei gynnig i unigolion sy'n dymuno cael gwaith neu ddychwelyd i fyd gwaith.
Mae cymorth cyflogadwyedd yn hanfodol bwysig ar adeg o ansicrwydd economaidd ac mae'r effaith gadarnhaol y mae ein Rhaglenni Cyflogadwyedd Cymunedol yn ei chael ar y bobl fwyaf ddifreintiedig yn ein cymunedau yn destun balchder mawr i mi, ynghyd ag ymroddiad a brwdfrydedd staff y rhaglenni wrth helpu'r rhai sy'n cymryd rhan i ddychwelyd i'r gwaith.