Daeth yr ymgynghoriad i ben 2 Medi 2016.
Adolygu ymatebion
Mae ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn cael ei adolygu ar hyn o bryd. Bydd manylion am y canlyniad yn cael eu cyhoeddi yma maes o law.
Ymgynghoriad gwreiddiol
Rydym am gael eich barn ar y cynigion ynghylch sut y dylai awdurdodau ymdrin â phremiymau’r dreth gyngor wrth gyfrifo’r sylfaen drethu.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
O 1 Ebrill 2017, bydd gan awdurdodau lleol bwerau disgresiwn i godi premiymau’r dreth gyngor ar gartrefi gwag hirdymor ac ail gartrefi. O'r dyddiad hwn ymlaen, bydd awdurdodau lleol yn gallu codi hyd at 100% o gyfradd safonol y dreth gyngor ar y mathau hyn o eiddo.
Diben yr ymgynghoriad yw cael sylwadau ar y cynigion ynghylch sut y dylai awdurdodau ymdrin â phremiymau’r dreth gyngor wrth gyfrifo’r sylfaen drethu fel bod awdurdodau lleol yn gallu cadw unrhyw refeniw ychwanegol a gynhyrchir er mwyn bodloni anghenion tai lleol.