Daeth yr ymgynghoriad i ben 14 Mehefin 2016.
Crynodeb o’r canlyniad
Canlyniad ymgynghoriad ar gyfer Death certification reforms ar GOV.UK
Ymgynghoriad gwreiddiol
Mae'r Adran Iechyd wedi cyhoeddi ymgynghoriad ar y ddogfen 'The Introduction of Medical Examiners and Reforms to Death Certification in England and Wales'.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Bydd ymgynghoriad yr Adran Iechyd (DH) yn ymdrin â meysydd megis fframwaith Cymru a Lloegr sydd heb eu datganoli i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Cyhoeddwyd mai Ebrill 2018 yw’r dyddiad arfaethedig ar gyfer cyflwyno’r system archwilwyr meddygol.
Ar ôl etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol byddwn yn ymgynghori yng Nghymru ar y meysydd sydd wedi’u datganoli i Gymru o ran penodi archwilwyr meddygol a chyllido’r gwasanaeth. Nid oes modd inni ymgynghori ochr yn ochr â’r DH oherwydd y cyfyngiadau a fydd mewn grym rhwng 6 Ebrill a 6 Mai cyn etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol.
Ein gobaith yw y bydd ein hymgynghoriad yn dechrau cyn gynted â phosibl ar ôl i ganlyniadau’r etholiadau gael eu cyhoeddi.
Mae'r ymgynghoriad hwn yn cael ei gynnal ar GOV.UK