Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae'n bleser gennyf gyhoeddi bod pum Cadeirydd annibynnol wedi'u penodi i Baneli adolygu Gofal Iechyd Parhaus y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIP). Mae hyn yn dilyn proses benodi gyhoeddus agored, yn unol â'r Cod Llywodraethiant ar Benodiadau Cyhoeddus.
Mae gan y Cadeiryddion hyn rôl hanfodol wrth sicrhau bod penderfyniadau ynglŷn â chymhwysedd pobl i gael Gofal Iechyd Parhaus yn parhau i fod yn gadarn a theg, er mwynsicrhau adolygiad teg ac agored i hawlwyr, a monitro bod arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio yn effeithiol.
Mae'n bleser gennyf gyhoeddi mai'r Cadeiryddion newydd fydd James Crowe, Richard Edwards, Colin Jones, Arun Midha a Deep Sagar. Bydd pob un ohonynt yn cyfrannu cyfoeth o brofiad a gwybodaeth. Maent wedi eu penodi ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Gorffennaf 2019 a 30 Mehefin 2023. Byddant yn derbyn tâl o £337 y dydd, yn seiliedig ar ymrwymiad amser o 30 diwrnod y flwyddyn.
Rwy'n ddiolchgar iawn am waith y Cadeiryddion blaenorol, David Simpson, Philip Hodgson, David Lewis, Susan Parsons, Enid Rowlands a Judith Hill, a benodwyd yn 2011. Daeth eu cyfnodau hwy yn y swydd i ben ar 30 Ebrill eleni. Rhyngddynt, maent wedi craffu nifer sylweddol o wrandawiadau. Mae eu cyfraniad a'u hymrwymiad i'w rôl wedi bod yn rhagorol ac wedi gofyn am arweinyddiaeth benigamp gyda materion a all fod yn sensitif, yn heriol ac yn gymhleth tu hwnt. Rwy'n siŵr y bydd y Cadeiryddion newydd yn adeiladu ar y sylfaeni a osodwyd gan y Cadeiryddion blaenorol i wneud cyfraniad gwirioneddol i sicrhau bod Gofal Iechyd Parhaus yn parhau i wella a sicrhau ansawdd bywyd da i bobl.
Hoffwn hefyd ddiolch i'r tîm Prosiect Ôl-weithredol Cenedlaethol Gofal Iechyd Parhaus, sydd wedi cwblhau eu cyfnod, dan arweiniad Kathleen Gallagher. Yn ogystal â'u hymdrechion amhrisiadwy wrth reoli llwyth gwaith sylweddol o hawliadau ôl-weithredol yn ystod y naw mlynedd ddiwethaf, maent wedi cefnogi fy swyddogion yn ystod yr ymarfer penodi hwn a byddant yn goruchwylio'r gwaith o hyfforddi'r cadeiryddion newydd i gyflawni eu dyletswyddau.
Yn olaf, hoffwn ddiolch i'r holl ymgeiswyr a wnaeth gais am y swyddi hyn. Roedd y garfan o ymgeiswyr yn gryf iawn ac yn cynnwys amrywiaeth eang o ddiddordebau a chryfderau.
Caiff yr holl benodiadau eu gwneud ar sail teilyngdod ac nid oes gan weithgarwch gwleidyddol unrhyw ran yn y broses ddethol. Fodd bynnag, yn unol ag argymhellion gwreiddiol Nolan, mae gofyn i'r sawl a gaiff ei benodi gyhoeddi unrhyw weithgarwch gwleidyddol (os yw'n datgan ei fod wedi ymgymryd ag unrhyw weithgarwch gwleidyddol). Nid yw unrhyw un o'r aelodau a benodwyd wedi datgan unrhyw weithgarwch gwleidyddol.
Gellir gweld manylion y Cadeiryddion newydd isod:
James Crowe
James yw Llywydd presennol Cymdeithas Ewropeaidd Darparwyr Gwasanaethau, sy'n ceisio dylanwadu ar bolisïau ac arferion ledled Ewrop. Mae gan y gymdeithas dros 130 o aelodau uniongyrchol ac mae’n cynrychioli dros 15,000 o sefydliadau mewn 33 o wledydd Ewropeaidd. Cyn hyn, treuliodd wyth mlynedd fel aelod o'r Bwrdd ac fel Is-lywydd.
Mae'n gyn Gyfarwyddwr Anabledd Dysgu Cymru, cynghrair ambarél o 80 o sefydliadau sy'n cefnogi plant ac oedolion gydag anabledd dysgu. Hefyd, roedd yn Arweinydd Prosiect Rhaglen Ddatblygu’r Cenhedloedd Unedig yng Nghyn-Weriniaeth Iwgoslafaidd Macedonia.
- Mae James yn Gadeirydd y Pwyllgorau Addasrwydd i Ymarfer yng Ngofal Cymdeithasol Cymru (tâl o £250 y dydd).
Richard Edwards
Mae Richard yn gyfarwyddwr Excel Educational and Child Psychology Services, ac wedi arbenigo mewn ymgynghoriaeth ac asesu ers dros chwe blynedd. Cyn hyn roedd yn Brif Seicolegydd Addysg a Phlant yng Ngwasanaeth Addysg a Seicoleg Plant Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful. Mae Richard wedi gweithio fel seicolegydd addysg ers 2003.
Roedd yn ddarlithydd, yn diwtor proffesiynol ac yn ymchwilydd ym Mhrifysgol Abertawe. Arbenigodd mewn hyfforddiant athrawon ac Astudiaethau Plentyndod Cynnar. Mae Richard hefyd wedi astudio Meddygaeth ym Mhrifysgol Abertawe. Mae'n Ymarferydd Seicoleg cofrestredig gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal, yn Seicolegydd Addysg Siartredig ac yn Gymrawd Cysylltiol o Gymdeithas Seicolegol Prydain. Mae Richard hefyd yn aelod o Grŵp Ymchwil Meincnodi Dyslecsia Llywodraeth Cymru.
- Nid yw Richard wedi ei benodi i unrhyw swydd gyhoeddus arall gan Weinidog
Yr Athro Colin Jones OBE
Mae Colin wedi bod yn Gadeirydd Annibynnol o’r blaen. Mae ei fywyd gwaith wedi'i gysegru i wasanaeth cyhoeddus yng Nghymru a Lloegr. Mae ganddo gyfoeth o brofiad yn y sector cyhoeddus (yn bennaf mewn Iechyd a Llywodraeth Leol).
Roedd Colin yn was sifil yn yr Adran Iechyd o 1961 nes iddo symud i'r Swyddfa Gymreig lle bu'n gwasanaethu fel uwch was sifil o 1976 tan 2001. Yna gwasanaethodd fel Prif Weithredwr cyntaf Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru rhwng 1996 a 2001.
Wedi iddo ymddeol yn 2001, gwasanaethodd fel Cadeirydd Bwrdd Iechyd Lleol Pen-y-bont ar Ogwr rhwng 2002 a 2008; fel Aelod a Chadeirydd Grŵp Cynghori Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Byddar Cymru o 2001 i 2010; fel Ymddiriedolwr Amgueddfa Genedlaethol Cymru (a Chadeirydd ei Gronfa Bensiwn) o 2001 i 2009 ac fel cyfarwyddwr anweithredol yr Arolygiaeth Gynllunio o 2008 nes iddo ddod i ben yn 2012.
- Nid yw Colin wedi ei benodi i unrhyw swydd gyhoeddus arall gan Weinidog
Dr Arun Midha
Mae Arun wedi bod yn Gadeirydd Annibynnol o’r blaen. Mae ganddo swydd debyg fel Cadeirydd Annibynnol adolygiadau gofal iechyd parhaus ôl-weithredol yn y GIG yn Lloegr. Mae wedi datblygu portffolio o swyddi fel aelod anweithredol a lleyg yn y meysydd rheoleiddio, safonau, llywodraethiant, iechyd ac addysg.
Mae ei swyddi blaenorol wedi cynnwys swydd fel aelod lleyg y Cyngor Meddygol Cyffredinol lle'r oedd yn Gadeirydd Adnoddau ac aelod Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. Mae Arun wedi gwasanaethu fel Ynad Heddwch ac roedd hefyd yn Uchel Siryf De Morgannwg yn 2012.
Mae'n Llywodraethwr yn Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr ac yn Aseswr Gwobrau Pen-blwydd y Frenhines ar gyfer Addysg Bellach ac Uwch.
Ar hyn o bryd mae Arun wedi'i benodi i'r swyddi cyhoeddus canlynol gan weinidog, y mae'n cael tâl amdanynt:
- Aelod Lleyg, Pwyllgor Safonau, Tŷ'r Cyffredin: (£10,000 y flwyddyn).
- Aelod lleyg, Cyngor Fferyllol Cyffredinol: (£12,500 y flwyddyn).
- Aelod, Cymwysterau Cymru: (£8,000 y flwyddyn).
Deep Sagar
Roedd Deep Sagar yn gweithio mewn busnes yn y sector preifat tan 2007. Roedd yn rheolwr cyffredinol neu'n gyfarwyddwr marchnata mewn cwmnïau fel Coca-Cola yn rhyngwladol. Ers hynny mae wedi gweithio mewn swyddi anweithredol yn y sector cyhoeddus. Mae wedi bod yn gadeirydd Rheoli Perygl Llifogydd Cymru a bwrdd cysgodol Swyddfa Archwilio Cymru.
Ar hyn o bryd, mae ei swyddogaethau yn cynnwys bod yn gadeirydd archwilio a risg yr Ombwdsmon Llywodraeth Leol a Gofal Cymdeithasol, a chadeirydd Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Ddwyrain Lloegr.
Ar hyn o bryd mae Deep wedi'i benodi i'r swyddi cyhoeddus canlynol gan weinidog, y mae'n cael tâl amdanynt:
- Aelod Bwrdd, CAFCASS (£287 y dydd);
- Aelod Bwrdd, Warrenpoint Harbour Authority (£7,411 y flwyddyn);
- Cadeirydd, Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Ddwyrain Lloegr (£30,618 y flwyddyn).