Daeth yr ymgynghoriad i ben 30 Gorffennaf 2015.
Adolygu ymatebion
Mae ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn cael ei adolygu ar hyn o bryd. Bydd manylion am y canlyniad yn cael eu cyhoeddi yma maes o law.
Ymgynghoriad gwreiddiol
Diben yr ymgynghoriad hwn yw holi pobl am eu barn am newid y canllawiau disgyblu a diswyddo ar gyfer staff ysgolion.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae Rheoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) (Diwygio) 2014 wedi newid y meini prawf yn Rheoliadau Staffio 2006 ynghylch ei gwneud hi’n ofynnol cynnal ymchwiliad annibynnol o honiadau ynghylch cam-drin plant yn erbyn aelodau o’r staff mewn ysgol. Diben yr ymchwiliad annibynnol yw rhoi gwybodaeth i bwyllgorau cyrff llywodraethu ar ddisgyblu a diswyddo staff am honiadau a fyddai petaent yn cael eu cadarnhau yn cael eu hystyried yn achosion o gamymddwyn difrifol ac a fyddai’n arwain at wrandawiad disgyblu yn erbyn aelod o’r staff a allai o ganlyniad gael ei ddiswyddo.
Mae’r newidiadau yn y gyfraith yn golygu yn ei dro fod angen diwygio ein canllawiau yng Nghylchlythyr 002/2013. Gofynnwn felly am eich sylwadau ar y fersiwn ddrafft o’r canllawiau sy’n adlewyrchu’r newidiadau a wnaed i’r gyfraith ac sydd hefyd yn diwygio ac yn ad-drefnu’r wybodaeth a roddir.