Mae Llywodraeth Cymru heddiw wedi cyhoeddi £1.3m o gyllid ychwanegol ar gyfer cynllun bwrsariaeth newydd i ddenu myfyrwyr o Gymru i wneud eu graddau Meistr yng Nghymru.
Nod y cynllun yw cynyddu nifer y graddedigion sy'n aros yng Nghymru neu'n dychwelyd i Gymru i astudio ar gyfer gradd Meistr mewn Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg neu Feddygaeth, neu bynciau ' STEMM’. Bydd arian ychwanegol ar gael hefyd i wneud graddau Meistr yn y Gymraeg.
Gall myfyrwyr o Gymru sy'n dechrau cwrs ôl-radd yn yr hydref dderbyn hyd at £17,000 tuag at eu hastudiaethau a'u costau byw, y pecyn cyllid myfyrwyr mwyaf hael yn y DU. Dangosodd ystadegau yn gynharach eleni gynnydd o 58% yn nifer yr ôl-raddedigion yng Nghymru sy'n gwneud cais am gymorth i fyfyrwyr.
Mae dros ddwy ran o dair o fyfyrwyr ôl-raddedig sy'n hanu o Gymru yn astudio yng Nghymru ar hyn o bryd. Nod Llywodraeth Cymru yw cynyddu'r niferoedd i 80% o fyfyrwyr o Gymru.
Dywedodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg:
"Mae llawer o resymau i astudio ar gyfer cymhwyster ôl-raddedig yng Nghymru, nid lleiaf enw da ein prifysgolion am ragoriaeth mewn ymchwil, sgoriau uchel cyson ar gyfer bodlonrwydd myfyrwyr a'r pecyn cymorth mwyaf hael ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig yn y DU.
"Anelir y bwrsariaethau hyn at ddarpar fyfyrwyr Meistr mewn meysydd pwnc lle gwyddom fod galw mawr am gymwysterau ôl-raddedig. Mae harneisio ein talent ôl-raddedig yn allweddol ar gyfer twf diwydiannau uwch-dechnoleg a'r economi ehangach yng Nghymru.
"Mae rhoi cymhellion i raddedigion aros yng Nghymru, neu ddychwelyd i Gymru, yn un o'm blaenoriaethau o ran diwallu anghenion sgiliau Cymru. Bydd y cynllun hwn yn cefnogi ein sefydliadau Addysg Uwch i gymell recriwtio'r myfyrwyr mwyaf talentog o Gymru, yn unol â'n Cynllun Gweithredu Economaidd a'm hymateb i Adolygiad Diamond."
"Mae'r bwrsari ychwanegol ar gyfer ôl-raddedigion cyfrwng Cymraeg hefyd yn bwysig i ddatblygiad parhaus y gweithlu Cymraeg, sy'n hanfodol er mwyn cyflawni ein targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Bydd £1.3m yn cael ei ddyrannu i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) ar gyfer y cynllun. Bydd y cynlluniau bwrsariaeth yn cael eu rheoli gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC).
Mae ceisiadau am gymorth i fyfyrwyr ôl-raddedig ar gyfer y flwyddyn academaidd 2019-20 bellach ar agor drwy wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.