Mae Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd, wedi dweud ei fod yn bwriadu cynyddu nifer y lleoedd hyfforddi i feddygon teulu yng Nghymru o bron i 18%.
Mae'n dilyn cynnydd sylweddol yn y gyfradd lenwi ar gyfer lleoedd hyfforddi, gyda 155 o leoedd wedi'u llenwi'n barod eleni yn erbyn y targed o 136.
Mae'r Gweinidog wedi gofyn yn awr i Addysg a Gwella Iechyd Cymru adolygu nifer y lleoedd yng Nghymru er mwyn sicrhau bod gweithlu medrus yn ei le i fodloni amcanion Cymru Iachach i ddarparu gofal yn agosach at gartrefi unigolion a lleihau'r pwysau ar ysbytai.
Gan ddechrau yn yr hydref, bydd y gyfradd lenwi ar gyfer lleoedd hyfforddi meddygon teulu yn cynyddu o 136 i 160. Bydd y ffigur hwn yn cael ei adolygu'n barhaus gyda'r bwriad o'i gynyddu ymhellach dros y blynyddoedd sydd i ddod.
Dywedodd Mr Gething:
“Rydyn ni wedi cynnydd rhagorol ers lansio ein hymgyrch Hyfforddi, Gweithio, Byw yn 2016 i ddenu'r rheini sydd am hyfforddi i fod yn feddygon teulu i Gymru. Rydyn ni wedi rhagori ar ein targed ar gyfer dwy o'r tair blynedd diwethaf felly mae nawr yn amser da i ystyried cynyddu'r targed hwnnw.
Rydw i wedi gofyn i Addysg a Gwella Iechyd Cymru adolygu nifer ein lleoedd hyfforddi i feddygon teulu er mwyn sicrhau bod gennym y gweithlu medrus sydd ei angen arnom i wireddu ein huchelgais hirdymor ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd, fel y'i hamlinellwyd yn Cymru Iachach. Hoffwn i gynyddu nifer y lleoedd hyfforddi i 160 mewn da bryd ar gyfer y cylch recriwtio nesaf yn 2019, ac rwy'n gobeithio hefyd y gallwn ni symud yn y dyfodol agos tuag at darged sydd hyd yn oed yn uwch. Rydw i hefyd wedi cytuno, lle y mae rhagor o gyfleoedd i dderbyn mwy o hyfforddeion meddygon teulu na'r 160, y gall Addysg a Gwella Iechyd Cymru wneud hynny os oes capasiti i gyflawni hyn."
Mae'r ymgyrch Hyfforddi, Gweithio, Byw i hyfforddeion meddygon teulu yn cynnwys dau gynllun cymhelliant ariannol: cynllun wedi'i dargedu sy'n cynnig cymhelliant o £20,000 i hyfforddeion i fod yn feddygon teulu sy'n derbyn swyddi mewn ardaloedd penodedig lle bu'n anodd llenwi swyddi, a chynllun cyffredinol sy'n cynnig taliad untro i bawb sy'n hyfforddi i fod yn feddyg teulu i dalu cost sefyll eu harholiadau terfynol unwaith.
Dywedodd yr Athro Push Mangat, Cyfarwyddwr Meddygol Addysg a Gwella Iechyd Cymru:
“Rydyn ni wrth ein boddau fod Llywodraeth Cymru wedi cytuno i ariannu ein cynllun i gynyddu'r nifer sy'n hyfforddi i fod yn feddygon teulu yng Nghymru. Bydd hyn yn cael effaith bositif ar wasanaethau gofal iechyd lleol ac ar iechyd a llesiant y trigolion. Mae gan Gymru lawer i'w gynnig ac edrychwn ymlaen at gael croesawu mwy o unigolion sydd am hyfforddi fel meddygon teulu yng Nghymru."