Mae’r bobl sy'n byw ger Twnelau Bryn-glas wedi’u hysbysu y bydd rhan o’r M4 yn cael ei chau ar gyfer gwaith cynnal a chadw hanfodol ar 26 Mehefin.
Mae’r Gwasanaethau Brys yn manteisio ar y cyfle i gynnal ymarfer a ddatblygwyd i herio ymatebwyr, gan roi profiad amser real iddynt o achub pobl o dwnelau.
Bydd yn rhaid i draffordd yr M4 gael ei chau i draffig i'r ddau gyfeiriad o 8pm hyd 6am y bore canlynol er mwyn gallu gwneud y gwaith cynnal a chadw.
Trwy ymgynghori â'r Asiant Cefnffyrdd sy'n gyfrifol am y twnelau bydd y gwasanaethau brys yn cychwyn eu hymarfer cyn gynted â phosibl ar ôl i'r M4 gael ei chau a bydd yn digwydd y tu mewn i'r twnelau.
Er mwyn sicrhau bod yr ymarfer yn tarfu cyn lleied â phosibl ar bobl bydd cerbydau ymateb y Gwasanaethau Brys yn cyfarfod yng Ngorsaf Dân Malpas.
Byddant yn teithio i'r twnelau heb ddefnyddio eu seirenau na'u golau glas.
Gallai'r ymarfer greu rhywfaint o sŵn o fewn y Twnelau tra bo systemau'n cael eu defnyddio ar gyfer profi'r Gwasanaethau Brys sy'n cymryd rhan.
Mae treialu ymateb sawl gwasanaeth brys ar yr un pryd yn creu cyfle i'r heddlu, timau rheoli traffig, y gwasanaethau ambiwlans a'r gwasanaeth tân brofi a pherffeithio'r gwaith o gydgysylltu'r ymateb brys.
Unwaith y bydd yr ymarfer wedi'i gwblhau bydd y gwaith cynnal a chadw yn cychwyn a bydd yr M4 yn ailagor cyn gynted ag y bydd yr ymarfer a'r camau cynnal a chadw angenrheidiol wedi'u cwblhau.
Bydd rhagor o wybodaeth ar gael yn nes at yr amser a gallwch ei gweld ar wefan Traffig Cymru.
Dywedodd y Gweinidog Trafnidiaeth Ken Skates:
"Mae'n bwysig fod holl drigolion yr ardal yn ymwybodol o'r gwaith cynnal a chadw arferol a fydd yn golygu bod y ffordd ar gau, a hefyd y tarfu posibl y gallai'r ymarfer gan y gwasanaethau brys ei achosi.
"Dyma gyfle gwych i brofi'r cyfarpar diogelwch newydd sydd wedi'i osod yn y twnelau ar adeg na ddylai darfu gormod ar fodurwyr.
"Mae sesiynau hyfforddi ymarferol ar gyfer ein gwasanaethau brys yn gwbl hanfodol er mwyn sicrhau eu bod yn barod i ymateb i wahanol argyfyngau.
"Nid ydym eisiau codi ofn ar unrhyw un a hoffem ddiolch yn fawr i'r trigolion am eu hamynedd tra bo'r gwaith yma'n digwydd.
Dywedodd Claire Langshaw, Rheolwr Cydnerthedd gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru:
"Hoffai Gwasanaeth Ambiwlans Cymru sicrhau'r trigolion nad yw'r cerbydau a fydd yn cael eu defnyddio yn rhai gweithredol ac na fydd y criwiau a fydd ynghlwm wrth yr ymarfer ar ddyletswydd ac felly ni fydd hyn yn amharu mewn unrhyw ffordd ar ein gallu i ymateb i alwadau gan drigolion yr ardal.