Neidio i'r prif gynnwy

Bydd cyfanswm o £3 miliwn o gyllid yr UE sy'n cefnogi prosiect newydd yn helpu i greu busnesau cymdeithasol newydd ledled y Gorllewin a'r Cymoedd, yn ôl cyhoeddiad gan Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Mehefin 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd menter Dechrau Newydd Busnes Cymdeithasol Cymru, o dan arweiniad Canolfan Cydweithredol Cymru, yn anelu at greu 200 o fusnesau dros y tair blynedd nesaf. Bydd y cwmnïau fydd yn cael eu sefydlu yn llunio'r genhedlaeth nesaf o fusnesau cymdeithasol llwyddiannus yng Nghymru, gan gynnig swyddi o safon a gwasanaethau hanfodol wedi eu hangori mewn cymunedau.

Gwnaeth Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth y cyhoeddiad mewn Cinio o Arweinwyr Cydweithredol ym mwyty The Clink yng Nghaerdydd, sydd hefyd yn fenter gymdeithasol lwyddiannus. 

Meddai:

"Mae cwmnïau cydweithredol a chwmnïau cydfuddiannol yn ychwanegu gwerth gwirioneddol i economi Cymru a'r farchnad lafur drwy greu swyddi, gwella cyrhaeddiad addysgol, cynnig gofal cymdeithasol yng nghartrefi pobl a lleihau anghydraddoldebau, yn enwedig yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig.  

"Rydyn ni'n gweld y sector cydweithredol yn datblygu fel rhan o'n huchelgais ehangach i fynd i'r afael â'r 'canol sydd ar goll' yng Nghymru - a chynyddu nifer y gwmnïau brodorol yn ein cymunedau - gan helpu Llywodraeth Cymru i gyrraedd ei nod o Lewyrch i Bawb."

Meddai Glenn Bowen, Cyfarwyddwr Rhaglen Fenter yng Nghanolfan Gydweithredol Cymru:

"Mae'r sector busnesau cymdeithasol yn rhan bwysig sy'n datblygu o fewn economi Cymru. 

"Bydd Dechrau Newydd Busnes Cymdeithasol Cymru yn helpu pobl i ddod at ei gilydd i sefydlu busnesau cymdeithasol newydd ledled y Gorllewin a'r Cymoedd, gan gynnig gwasanaethau pwysig a chreu swyddi y mae angen mawr amdanyn nhw. 

"Bydd Canolfan Cydweithredol Cymru yn cynnig gwasanaeth dechrau newydd ochr yn ochr â rhaglen twf bresennol  Busnes Cymdeithasol Cymru, a chaiff ei gynnig fel rhan o gymorth Busnes Cymru."

Yn ystod y ddegawd ddiwethaf, mae prosiectau sydd wedi'u hariannu gan yr UE wedi creu 48,000 o swyddi newydd a 13,000 o fusnesau newydd ledled Cymru, wrth hefyd helpu dros 86,000 o bobl i swyddi.