Neidio i'r prif gynnwy

Bod darpariaeth cyngor effeithiol ar gael ledled Cymru ar gyfer pob dinesydd.

Gweledigaeth

Sicrhau bod darpariaeth effeithiol o gyngor ar gael ledled Cymru i bob dinesydd.

Amcanion

  1. Datblygu a chefnogi'r gwaith o ddarparu Dull Strategol o Weithredu o ran darparu gwasanaethau cyngor ar les cymdeithasol yng Nghymru.
  2. Gweithio gyda darparwyr cyngor, cyllidwyr a rhanddeiliaid perthnasol eraill a darparwyr gwasanaethau i gyflawni'r weledigaeth hon.
  3. Cryfhau'r cydnawsedd rhwng gwasanaethau cynghori ar fudd-daliadau lles, dyled ac arian, tai a digartrefedd, cyflogaeth, mewnfudo a gwahaniaethu â gwasanaethau eraill sy'n gysylltiedig â chyngor.
  4. Sicrhau bod darpariaeth gydgysylltiedig o ran cyngor yng Nghymru yn mynd i'r afael ag effeithiau negyddol Diwygio Lles ac yn cyfrannu at fynd i'r afael â thlodi.
  5. Ymgysylltu'n effeithiol â Llywodraeth Cymru a sefydliadau eraill sy'n noddi gwasanaethau cynghori er mwyn cefnogi'r gwaith sy'n mynd rhagddo i ddatblygu dull gweithredu strategol ar gyfer Gwybodaeth a Chyngor yng Nghymru. 

Swyddogaethau

Bydd swyddogaethau'r rhwydwaith yn cynnwys: 

  • deall natur y galw am wasanaethau cynghori ar lefel genedlaethol ac ar lefel leol ar hyn o bryd ac yn y dyfodol
  • cydweithio â rhanddeiliaid allweddol i nodi unrhyw fylchau yn y ddarpariaeth, ar lefel genedlaethol neu ar lefel leol
  • nodi'r cyfleoedd ar gyfer mwy o gydweithredu rhwng darparwyr, gan anelu yn y pen draw at wella profiad y cleient ac ansawdd ac effeithiolrwydd y cyngor a ddarperir
  • rhannu a lledu arferion da, neu o ddatblygu ffyrdd arloesol o ddarparu cyngor
  • dylanwadu ar bolisi a phrosesau er mwyn lleihau'r galw am wasanaethau cynghori
  • hybu ymdrechion i wella ansawdd cyffredinol gwybodaeth a chyngor yng Nghymru, a sicrhau mwy o gysondeb o ran mesur canlyniadau ar draws y sector cynghori
  • pennu set eang o egwyddorion/canllawiau ar gyfer rhwydweithiau cynghori lleol neu ranbarthol, a chadw perthynas weithio agos â'r rhwydweithiau hynny
  • dod o hyd i ffynonellau newydd o gyllid a nodi'r cyfleoedd ar gyfer symleiddio gwasanaethau
  • nodi'r cyfleoedd ar gyfer ceisiadau ar y cyd am gyllid i greu, cefnogi a gwella gwasanaethau rheng flaen cynaliadwy
  • cefnogi gweithredu Cynllun Gweithredu Gwybodaeth a Chyngor Llywodraeth Cymru, a monitro cynnydd yn flynyddol yn erbyn y cynllun
  • darparu cyngor i Ysgrifennydd y Cabinet a Llywodraeth Cymru ynghylch darparu gwasanaethau cynghori effeithiol a chynaliadwy
  • sganio'r gorwel

Cod ymddygiad i aelodau

Cyflwyniad 

Mae'r Rhwydwaith Cynghori Cenedlaethol yn cydnabod cyfraniad aelodau gwirfoddol , y sector cynghori a defnyddwyr gwasanaeth posibl yng Nghymru i'r Rhwydwaith. Pwrpas y cod hwn yw cynnal safonau uchel o ran ymddygiad, cynorthwyo aelodau ac amddiffyn buddiannau gorau'r Rhwydwaith Cynghori Cenedlaethol. Mae gan y Rhwydwaith Aelodaeth Graidd sy'n cyfarfod pedair gwaith y flwyddyn. 

Rhwymedigaethau aelodau'r rhwydwaith 

Mae'r Rhwydwaith yn disgwyl y bydd pob aelod yn cefnogi amcanion, nodau a gweith gareddau'r Rhwydwaith unwaith y cytunir arnynt. 

Fel arfer, bydd y Rhwydwaith yn ceisio dod i benderfyniadau drwy gonsensws. 

Mae'n ofynnol i aelodau weithredu er budd y Rhwydwaith yn unig ac nid ar ran eu cyflogwr, y sefydliad y maent yn aelod ohono neu grŵp diddordeb ehangach. Mae'r profiad a'r ddealltwriaeth y mae pob aelod o'r rhwydwaith yn eu cynnig o'u profiad eu hunain yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr ac nid oes disgwyl i aelodau'r rhwydwaith weithredu fel cynrychiolwyr unrhyw grŵp diddordeb penodol.   

Disgwylir i Aelodau Craidd fynd i bedwar cyfarfod o'r Rhwydwaith bob blwyddyn a darllen o flaen llaw y papurau sydd wedi'u dosbarthu cyn cyfarfodydd fel y gallant gyfrannu'n llawn atynt.  Gall bod yn bresennol olygu presenoldeb wyneb yn wyneb neu drwy gyswllt fideo. Gall y Cadeirydd wahodd unigolion ychwanegol i fod yn bresennol i gyfrannu eu harbenigedd at drafodaethau penodol. 

Efallai y gofynnir i aelodau'r Rhwydwaith Ehangach gyfrannu drwy e-bost neu gymryd rhan mewn gweithgorau gorchwyl a gorffen yn ogystal â'r Cyfarfod Rhwydwaith Ehangach blynyddol. 

Disgwylir i bob Aelod gymryd camau rhesymol i sicrhau eu bod yn ymwybodol o ddatblygiadau perthnasol o ran polisi cyhoeddus a materion eraill sy'n effeithio, neu sydd â'r potensial i effeithio ar waith y Rhwydwaith Cynghori Cenedlaethol. 

Ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol, bydd yr holl eitemau agenda a gynigir gan aelodau'r Rhwydwaith yn cael eu cefnogi gan bapur sy'n disgrifio'r mater dan sylw a'i ganlyniadau posibl. Mae disgwyl i aelodau wneud y canlynol: 

  • gwrando ar farn pobl eraill a'i pharchu
  • ceisio datrysiad cadarnhaol ac adeiladol i'r materion hynny lle mae gwahaniaethau barn yn bodoli
  • parchu swydd y Cadeirydd, er mwyn sicrhau bod cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn drefnus

Datgan buddiannau

Mae disgwyl i aelodau: 

  • sicrhau nad yw buddiannau ariannol preifat neu bersonol byth yn dylanwadu ar eu penderfyniadau
  • sicrhau nad ydynt yn defnyddio eu safle fel aelod Rhwydwaith er budd personol o unrhyw fath 
  • datgelu i'r Ysgrifenyddiaeth unrhyw ddiddordeb ariannol uniongyrchol neu anuniongyrchol neu ddiddordeb arall a allai ddylanwadu ar farn neu roi'r argraff bod y Rhwydwaith yn gweithredu i hyrwyddo buddiannau'r aelodau 

Cyfrinachedd 

Ni ddylai aelodau drosglwyddo unrhyw wybodaeth a gafwyd drwy eu haelodaeth o'r Rhwydwaith i drydydd parti heb gymeradwyaeth y Cadeirydd neu'r Ysgrifenyddiaeth. Bydd papurau sydd i'w dosbarthu'n agored i'r grŵp rhanddeiliaid ehangach yn cael eu rhannu gan yr Ysgrifenyddiaeth a'u marcio'n glir. 

Gweithgareddau allanol 

Dylai aelodau ystyried eu hunain bob amser fel llysgenhadon ar ran y Rhwydwaith ac felly dylent sicrhau nad oes unrhyw un o'u gweithgareddau eraill yn cael yr effaith o ddwyn anfri ar y Rhwydwaith. 

Hawlio treuliau 

Bydd Llywodraeth Cymru yn ad-dalu costau teithio a chynhaliaeth aelodau am fynd i gyfarfodydd Rhwydwaith ar dderbyn anfoneb. Mae'n rhaid anfon derbynebau gyda'r anfoneb. Mae'r cyfraddau teithio a chynhaliaeth cyfredol ar gael gan yr Ysgrifenyddiaeth.