Cylch gorchwyl
Crynodeb o ddiben y bwrdd a sut y bydd yn gweithio.
Cynnwys
1. Diben
Rhoi adborth ar ran rhanddeiliad ar gynnwys Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru (CMCC), ar y gwaith o'i baratoi ac ar brosesau cysylltiedig â chynghori ar roi'r cynllun a fabwysiedir ar waith.
2. Cwmpas
Bydd Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid Cynllunio Morol yn "gyfaill beirniadol" i Lywodraeth Cymru drwy gydol y broses Cynllunio Morol. Bydd y grŵp yn cynghori ar ffyrdd o fynd ati i ddatblygu cynlluniau morol ac ar ganlyniadau penodol y cynllunio hwnnw, gan gynnwys yr hyn a gynhwysir yn y cynllun. Bydd drafftiau cynnar o'r hyn a gynhyrchir yn cael eu rhannu ar sail gyfrinachol â'r grŵp.
Bydd y Grŵp yn cynghori ar y gwaith o baratoi a gweithredu'r cynllun a bydd yn parhau ar ôl i'r cynllun gael ei fabwysiadu.
3. Meysydd allweddol a fydd yn cael sylw
Bydd angen cyngor a chyfraniadau mewn nifer o feysydd, er enghraifft:
- Gweledigaeth ac Amcanion CMC
- Cynnwys CMCC
- Y broses cynllunio morol yng Nghymru
- Tystiolaeth ar gyfer cynllunio'r Arfarniad o Gynaliadwyedd, yr Asesiad Amgylcheddol Strategol a'r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd
- Integreiddio â systemau cynllunio eraill
- Monitro, adolygu ac asesu CMCC
- Rheolaeth Integredig ar Barthau Arfordirol fel rhan o'r broses cynllunio morol
- Y dull rheoli ar lefel yr ecosystem, rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, a llesiant
- Canlyniadau gwaith ymchwil sy'n gysylltiedig â'r broses cynllunio morol
- Rhoi'r cynllun ar waith, gan gynnwys gwneud penderfyniadau
- Rhoi gwybod am "wersi a ddysgwyd" oddi wrth brosesau cynllunio morol eraill neu oddi wrth brosesau cynllunio cysylltiedig
- Helpu i ddatblygu'r ffordd y mae gwaith yn cael ei gydgysylltu ar draws ffiniau, yn enwedig yn ardaloedd Aberoedd Afon Hafren ac Afon Dyfrdwy.
4. Cysylltu ag eraill
- Bod yn llinell gyswllt rhwng y tîm cynllunio morol a rhwydweithiau ehangach o randdeiliaid yng nghyswllt y maes perthnasol y maent yn ei gynrychioli
- Cyfathrebu â rhwydweithiau rhanddeiliaid pan fyddwn yn ymgynghori a'n helpu i drafod â nhw pan fo hynny'n briodol
- Hyrwyddo'n neges
- Rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru am unrhyw rwydweithiau newydd neu am y ffyrdd gorau o gyfathrebu â rhanddeiliaid allweddol.
5. Aelodaeth
Bydd aelodau'r grŵp yn cynrychioli buddiannau amryfal randdeiliaid, gan gynnwys:
- Cyfoeth Naturiol Cymru
- Cymdeithas Ceblau dan y Môr Ewrop
- Cymdeithas Cynhyrchwyr Agregau Morol Prydain
- Cymdeithas Cynhyrchwyr Cregyn Gleision Cymru
- Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
- Cymdeithas Pysgotwyr Cymru
- Cyswllt Amgylchedd Cymru
- Grŵp Defnyddwyr a Datblygwyr Gwely'r Môr
- Grŵp Porthladdoedd Cymru
- Fforwm Arfordir Sir Benfro
- Horizon Nuclear Power
- Partneriaeth Aber Afon Hafren
- Prifysgol Lerpwl
- Renewables UK
- RSPB
- SeaCAMS2
- Seafish
- Swyddogion Safleoedd Morol Ewropeaidd
- Tidal Lagoon Power
- Tîm Cynllunio Morol Llywodraeth Cymru
- Y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur
- Y Gymdeithas Hwylio Frenhinol
- Y Sefydliad Rheoli Morol
- Y Siambr Morgludiant
- Ynni Môr Cymru
- Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
- Ystad y Goron
Mae'n bosibl y gofynnir i randdeiliaid eraill ac arweinwyr polisi eraill yn Llywodraeth Cymru ddod i gyfarfodydd penodol.
6. Trefniadau gweithio
Bydd y Grŵp yn cael ei gadeirio gan Bennaeth y Gangen Polisi Morol.
Bydd yn cyfarfod bob chwarter fwy neu lai tra bo CMCC yn cael ei ddrafftio. Bydd nifer y cyfarfodydd rheolaidd yn cael ei adolygu ar ôl i CMCC gael ei fabwysiadu. Fel arfer, bydd y cyfarfodydd yn rhai wyneb yn wyneb, a chânt eu hategu yn ôl y gofyn gan rith-gyfarfodydd. Byddant yn cael eu cynnal ar draws Cymru.
Bydd aelodau'r Grŵp yn cyfrannu ac yn cynnig cyngor yn ôl y gofyn ar sail hyblyg. Mae'n bosibl y gofynnir i'r aelodau ymuno â grwpiau gorchwyl a gorffen llai ar sail ad-hoc wrth inni gwblhau camau gwahanol o'r cynllun.
Bydd Ystad Llywodraeth Cymru yn cael ei defnyddio pryd bynnag y bo modd a chaiff cyfleusterau fideo-gynadledda eu defnyddio lle y bo modd.
Bydd y Grŵp yn gweithredu fel cyfaill beirniadol. Disgwylir cyfraniadau adeiladol a disgwylir i'r aelodau ganolbwyntio ar ddatrys problemau a phryderon.
Pan rennir gwybodaeth/deunydd â'r Grŵp, bydd Llywodraeth Cymru yn esbonio a fydd yn briodol ei rhannu y tu allan i'r grŵp.
Bydd pwyntiau gweithredu yn cael eu nodi a'u hanfon at yr aelodau a chaiff crynodeb lefel uchel o'r drafodaeth ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.