Daeth yr ymgynghoriad i ben 22 Mai 2013.
Manylion am y canlyniad
Rhag-werthusiad (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Mae'r ymgynghoriad hwn yn gwahodd eich sylwadau ar Adroddiad Amgylcheddol yr Asesiad Amgylcheddol Strategol (SEA) ar gyfer Cynllun Datblygu Gwledig ar gyfer Cymru 2014 - 2020.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae’r SEA yn cael ei gynnal yn unol â Chyfarwyddeb SEA (2001/42/EC) a Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni (Cymru) 2004 (Offeryn Statudol Cymru 2004 rhif 1656 (Cy.170)). Cafodd Adroddiad Amgylcheddol SEA ei baratoi ar ôl ymgynghori’n llawn â chyrff statudol. Mae disgwyl i raglenni a noddir gan yr UE gynnal safonau uchel o ran amddiffyn yr amgylchedd a bydd yr SEA yn helpu i sicrhau bod rhaglenni’n cyfrannu’n bositif at hynny
Cynhelir yr ymgynghoriad ar y cyd â’r sgwrs am Ddiwygio’r PAC sy’n digwydd ar hyn o bryd a’r ymgynghoriad cyhoeddus ar Gynllun Datblygu Gwledig 2014-2020: y Camau Nesaf a lansiwyd gan y Dirprwy Weinidog ar 30 Ionawr 2013.