Pwrpas
Beth mae'r Bwrdd Teithio Llesol yn ei wneud.
Mae'r Bwrdd Teithio Llesol wedi bod ar waith ers creu Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 ac mae wedi bod yn cynghori Llywodraeth Cymru ar gyflawni teithio llesol.
Mae bellach wedi cael ei ail-lunio gyda chadeirydd annibynnol, aelodau annibynnol a chymorth wedi'i ariannu.
Bydd y Bwrdd yn ymgymryd â swyddogaeth craffu a herio uwch, mewn perthynas â'r rheini sy'n gysylltiedig â chyflawni teithio llesol.
Bydd yn cyhoeddi ei argymhellion a'i gyngor i bartneriaid cyflawni ac yn paratoi adroddiad blynyddol ar ei weithgareddau.