Daeth yr ymgynghoriad i ben 22 Ebrill 2013.
Adolygu ymatebion
Mae ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn cael ei adolygu ar hyn o bryd. Bydd manylion am y canlyniad yn cael eu cyhoeddi yma maes o law.
Ymgynghoriad gwreiddiol
Mae'r ymgynghoriad hwn yn gwahodd eich sylwadau ar Adroddiad Amgylcheddol yr Asesiad Amgylcheddol Strategol (SEA) ar gyfer rhaglenni Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) Cronfeydd Strwythurol 2014 - 2020.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae’r SEA yn cael ei gynnal yn unol â Chyfarwyddeb SEA (2001/42/EC) a Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni (Cymru) 2004 (Offeryn Statudol Cymru 2004 rhif 1656 (Cy.170)). Cafodd Adroddiad Amgylcheddol SEA ei baratoi ar ôl ymgynghori’n llawn â chyrff statudol. Mae disgwyl i raglenni a noddir gan yr UE gynnal safonau uchel o ran amddiffyn yr amgylchedd a bydd yr SEA yn helpu i sicrhau bod rhaglenni’n cyfrannu’n bositif at hynny
Cynhelir yr ymgynghoriad ar y cyd â’r ymgynghoriad cyhoeddus ar raglenni Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd 2014-2020 y Dwyrain a’r Gorllewin ‘Cymru a’r UE: Partneriaeth ar gyfer Twf a Swyddi’ a lansiwyd gan y Dirprwy Weinidog ar 14 Ionawr 2013.