Mae Cymru ar flaen y gad o ran datblygu system treth gyngor flaengar a thecach sy’n canolbwyntio’n fwy ar y dinesydd, ond mae mwy y gallem ei wneud o hyd.
Dyna neges y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans, yng nghynhadledd y Sefydliad Ardrethu a Phrisio Refeniw (IRRV).
Fis Ebrill, cyflwynodd Llywodraeth Cymru ddeddfwriaeth newydd sy’n eithrio pob person ifanc sy’n gadael gofal rhag gorfod talu’r dreth gyngor nes byddant yn cael eu pen-blwydd yn 25 oed. Bydd hynny’n eu helpu i gamu’n llwyddiannus i fyw’n annibynnol fel oedolion.
Mae’r gosb o garchar am beidio â thalu’r dreth gyngor wedi’i dileu, gan fod Llywodraeth Cymru’n cydnabod na ddylai mynd i ddyled gael ei drin fel trosedd. Er gwaetha’r pryderon cychwynnol, mae cefnogaeth eang i’r ddeddfwriaeth erbyn hyn ac mae galw wedi bod ar Lywodraeth y DU i ddilyn ein hesiampl.
Law yn llaw â’r ddeddfwriaeth newydd, mae ein Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor yn darparu £224m bob blwyddyn i sicrhau bod aelwydydd agored i niwed yng Nghymru’n cael eu hamddiffyn rhag codiadau yn eu biliau treth gyngor. Mae’r protocol newydd ar y dreth gyngor sydd wedi’i ddatblygu gyda’r awdurdodau lleol a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru hefyd yn helpu i newid y ffordd y mae dyledion treth gyngor yn cael eu trin a’u rheoli yng Nghymru.
Wrth annerch cynulleidfa o gynrychiolwyr o’r awdurdodau lleol, asiantaethau gorfodi a gweithwyr proffesiynol ym maes budd-daliadau, diolchodd y Gweinidog i bawb am eu cyfraniadau a soniodd am ei huchelgais ar gyfer y dyfodol.
Dywedodd Rebecca Evans:
“Rwy’n archwilio’r opsiynau ar gyfer diwygio trethi lleol yn y tymor canolig i’r tymor hir er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn diwallu anghenion Cymru yn y modd gorau posib. Fy mwriad yw edrych ar drethi lleol mewn modd blaengar, teg a thryloyw, gan sicrfhau eu bod yn dal i ddarparu cyllid ar gyfer gwasanaethau lleol hanfodol.
“Mae gwaith ymchwil sylweddol wedi’i wneud i’r ffordd y dylai gwasanaethau cyhoeddus gael eu hariannu yng Nghymru, yng ngweddill y DU a thrwy’r byd. Mae llawer o’r ymdriniaeth wedi canolbwyntio ar ddiben allweddol trethi lleol fel dull o godi refeniw, ond mae peth diddordeb hefyd mewn archwilio i ba raddau y gellid defnyddio trethi lleol fel ysgogiad i ddiwallu gwahanol amcanion economaidd a chymdeithasol.
“Rydyn ni wedi comisiynu arbenigwyr allanol i ymchwilio i effaith y Credyd Cynhwysol ar Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor ac ôl-ddyledion rhenti yng Nghymru. Dyw hi ddim yn iawn bod penderfyniadau sy’n cael eu gwneud gan Lywodraeth y DU am fudd-daliadau lles yn gallu effeithio ar drethi lleol yng Nghymru – maes cyfrifoldeb sydd wedi’i ddatganoli ers 1999. Bydd y canfyddiadau hyn yn cael eu defnyddio i’n helpu i ddatblygu’r cynllun.
“Rydyn ni hefyd yn ymchwilio i ganfod pa effaith y gallai ymarferiad ailbrisio ei gael ar sylfaen drethu eiddo domestig Cymru os penderfynir cynnal un. Disgwylir i ganfyddiadau’r ymchwil fod ar gael yn gynnar y flwyddyn nesaf.”