Ken Skates, AC Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth
Ar 17eg Rhagfyr 2018, cyhoeddodd y Gwir Anrhydeddus Chris Grayling AS, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth, Bapur Gwyrdd o dan y teitl 'Hedfanaeth 2050 - dyfodol hedfanaeth yn y DU', a nod y Papur yw "sicrhau sector hedfanaeth diogel a chynaliadwy sy'n bodloni anghenion defnyddwyr a Phrydain fyd-eang, allblyg".
Ar ddechrau Mawrth, cyflwynais ddatganiad oedd yn amlinellu bod Llywodraeth y DU wedi ymestyn rhywfaint ond nid y cyfan o'r ymgynghoriad, felly y byddai Llywodraeth Cymru yn ymateb mewn dau gam. Cafodd copi o'r llythyr cyntaf ei roi yn llyfrgell yr Aelodau er gwybodaeth.
Rwyf bellach wedi ysgrifennu at Chris Grayling, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth gydag ymateb Llywodraeth Cymru i'r ail gam, ac mae copi o'r llythyr hwnnw wedi ei roi yn llyfrgell yr Aelodau er gwybodaeth. Mae'n ystyried sut y mae y Papur Gwyrdd ar Hedfanaeth 2050 yn bwriadu mynd i'r afael â'r Rhwymedigaethau Gwasanaeth Cyhoeddus.
Mae'n hanfodol bod strategaeth newydd Llywodraeth y DU ar Hedfanaeth yn cefnogi cysylltedd awyr rhanbarthol ac yn cydnabod bwysigrwydd hedfanaeth ranbarthol o fewn datblygiad cymdeithasol ac economaidd Cymru. Gydag 80% o fasnach Cymru yn mynd i ganolfannau economaidd allweddol ledled y DU mae'n hanfodol er mwyn ein llewyrch economaidd ein bod yn gallu cefnogi cysylltedd gwell ledled y wlad, ac ymyrryd ble y mae marchnadoedd masnachol yn methu. Mae Strategaeth Hedfanaeth gynhwysfawr sy'n ystyried yr holl randdeiliaid hyn yn hanfodol.
Rwyf, unwaith eto, wedi galw ar Lywodraeth y DU i gyflwyno ein cynigion Rhwymedigaethau Gwasanaethau Cyhoeddus i'r UE i'w hystyried yn llawn. Byddai'r llwybrau awyr arfaethedig newydd hyn yn cynnig cysylltiadau gwell rhwng Cymru a gweddill y DU a thrwy hynny roi Cymru mewn sefyllfa well wedi Brexit. Rwyf hefyd wedi galw am newid yn y sefyllfa ar ddatganoli Toll Teithwyr Awyr yn dilyn yr argymhelliad diweddar gan y Pwyllgor Materion Cymreig i ddatganoli y Toll Teithwyr Awyr i Gymru yn gyfan-gwbl erbyn 2021.