Grŵp iechyd meddwl a lles Cyngor Ieuenctid Caerdydd - Cyngor Caerdydd
Teilyngwr
![Grŵp iechyd meddwl a lles Cyngor Ieuenctid Caerdydd - Cyngor Caerdydd](/sites/default/files/campaign-case-studies/2019-06/Cardiff%20Youth%20Council%20Mental%20Health%20and%20Wellbeing%20Group%20960%20x%20450.jpg)
Yn dilyn pleidlais 'Gwneud eich Marc' Senedd Ieuenctid y DU, nododd Cyngor Ieuenctid Caerdydd mai iechyd meddwl oedd un o'i brif flaenoriaethau yn 2018 a sefydlwyd is-grŵp iechyd meddwl a lles. Mae gan y grŵp 30 o aelodau gweithredol sy'n cyfarfod bob pythefnos.
Mae'r grŵp yn gweithio gyda nifer o bartneriaid allweddol ac mae wedi llwyddo i gael cynrychiolaeth ragorol ar nifer o fyrddau/pwyllgorau strategol ledled y ddinas. Mae'n werth nodi bod y grŵp wedi bod yn cynghori Cyngor Caerdydd ar y ffordd orau o ddefnyddio grant cymorth ieuenctid Llywodraeth Cymru ar gyfer pobl ifanc.
Mae'r beirniaid o'r farn bod y prosiect hwn yn dangos effaith llais unedig pobl ifanc wrth hyrwyddo hawliau i'r rheini sy'n profi problemau iechyd meddwl.