Daeth yr ymgynghoriad i ben 17 Tachwedd 2011.
Adolygu ymatebion
Mae ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn cael ei adolygu ar hyn o bryd. Bydd manylion am y canlyniad yn cael eu cyhoeddi yma maes o law.
Ymgynghoriad gwreiddiol
Rydym am newid system Cymru ar gyfer cyflwyno apeliadau cynllunio er mwyn symleiddio'r broses apelio, arbed arian ac amser a sicrhau bod modd ymdrin ag apeliadau cymhleth.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae ein newidiadau arfaethedig yn cynnwys:
- system gyflymach ar gyfer apeliadau gan ddeiliaid tai;
- galluogi’r Arolygiaeth Gynllunio i benderfynu ar y dull a ddefnyddir i apelio ym mhob achos yn seiliedig ar feini prawf sydd wedi’u cymeradwyo a’u cyhoeddi gan y Gweinidog;
- caniatáu i bobl wneud cais am gostau mewn perthynas ag apeliadau yr ymdrinnir â nhw drwy sylwadau ysgrifenedig;
- ei gwneud yn haws cywiro gwall(au) mewn penderfyniadau ar apeliadau;
- awdurdodi arolygwyr i benderfynu ar apeliadau mewn perthynas â rhoi caniatâd sy’n ymwneud â hen fwynau;
- newid y trefniadau ar gyfer talu ffioedd am geisiadau gorfodi pan gyflwynir apeliadau fel y telir y ffi gyfan i’r awdurdod cynllunio lleol;
- ei gwneud yn ofynnol cyflwyno Datganiadau o Dir Cyffredin yn gynt;
- canllawiau a phroses ffurfiol ar gyfer amserlenni ymholiadau cymhleth.
Dogfennau ymgynghori
Dogfen ymgynghori , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 217 KB
PDF
217 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Rhestr o'r ymgynghoreion (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 48 KB
PDF
48 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.