Heddiw, bydd y Prif Weinidog, Mark Drakeford yn croesawu Is-bennaeth Llywodraeth Tsieina, Hu Chunhua, i Gymru.
Mae'r Is-bennaeth a chynrychiolwyr o blith yr Is-weinidogion yn ymweld â Chymru am ddau ddiwrnod yn dilyn Deialog Ariannol Economaidd Lefel Uchel y DU a Tsieina a gynhaliwyd yn Llundain ddoe.
Tsieina yw un o farchnadoedd allforio pwysicaf Cymru. Roedd allforion o Gymru i Tsieina yn werth bron £379 miliwn yn 2018; cynnydd o 21 y cant o'i gymharu â 2017. Mae Tsieina yn 9fed ar y rhestr o gyrchfannau allforio mwyaf Cymru.
Mae 15 o gwmnïau yng Nghymru sydd o dan berchnogaeth pobl o Tsieina, ac mae'r cwmnïau hyn yn cyflogi rhyw 2,500 o bobl. Mae'r rhain yn cynnwys Northern Automotive Systems yng Nghilwern, TongFang Global ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Shunxi Stem Cell Engineering yn Abertawe ac Acerchem ym Mhort Talbot.
Cyn yr ymweliad, dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford:
"Mae'n bleser gennyf groesawu Is-bennaeth Llywodraeth Tsieina a'i ddirprwyaeth i Gymru. Mae gan Gymru gysylltiadau economaidd, diwylliannol ac addysgol hirsefydlog a chryf gyda Tsieina, ac rwy'n edrych ymlaen at gryfhau'r berthynas yn ystod ymweliad yr Is-bennaeth.
Dywedodd y Gweinidog Cysylltiadau Rhyngwladol, Eluned Morgan:
“Tsieina yw un o farchnadoedd allforio pwysicaf Cymru. Fel ail economi fwyaf y byd, mae Tsieina yn rym economaidd byd-eang. Rydym yn benderfynol o sicrhau bod cwmnïau o Gymru yn y sefyllfa orau bosibl i fanteisio ar y cyfleoedd allforio sydd ar gael yn un o economïau cryfaf y byd.”
Heno, bydd yr Is-bennaeth yn cynnal cyfarfod dwyochrog gyda'r Prif Weinidog ac aelodau Cabinet Cymru, ac yn dilyn hyn cynhelir gwledd i anrhydeddu ymweliad yr Is-bennaeth â Chymru. Yn bresennol yn y wledd bydd cynrychiolwyr o feysydd busnes, academaidd, celfyddydau, diwylliant a chwaraeon Cymru sy'n gweithio yn Tsieina, neu gyda’r wlad.
Ddydd Mercher, bydd yr Is-bennaeth hefyd yn ymweld â fferm gyda Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths. Bydd hyn yn gyfle i arddangos ansawdd cig eidion a chig oen Cymru a phwysleisio’r safonau rhagorol o ran dibynadwyedd, y gallu i olrhain a diogelwch. Bydd yn gyfle hefyd i’r Is-bennaeth weld sut y mae ffermwyr Cymru yn mabwysiadu dulliau ffermio cynaliadwy.