Rebecca Evans AC, Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd
Mae Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-20 yn cael ei chyhoeddi heddiw.
Prif ddiben y Gyllideb Atodol hon yw dangos y newidiadau cyllidebol ers Cyllideb Derfynol 2019-20 a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr 2018.
Mae’n nodi nifer o ddyraniadau o’n cronfeydd wrth gefn, ac yn cynnwys rhagolygon diwygiedig ar gyfer Gwariant a Reolir yn Flynyddol.
Bydd y Gyllideb Atodol yn destun craffu gan y Pwyllgor Cyllid ar 27 mis Mehefin a bydd yn cael ei thrafod yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 9 mis Gorffennaf.