Rebecca Evans AC, y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd
Heddiw, rwy'n cyhoeddi pecyn buddsoddi cyfalaf gwerth £85 miliwn fel rhan o Gyllideb Atodol Gyntaf 2019-20. Bydd y buddsoddiad cyfalaf hwn yn rhoi hwb ar unwaith i sicrwydd a hyder busnesau yng Nghymru ar adeg pryd maent dan bwysau o ganlyniad i fethiant Llywodraeth y DU i roi terfyn ar ansicrwydd Brexit.
Er gwaethaf yr estyniad i Erthygl 50 sy'n atal, am y tro, y perygl o ymadael yn anhrefnus heb gytundeb, rydym yn hollol glir ac yn gyson ein barn serch hynny nad yw'r perygl wedi diflannu. Rwy’n pryderu’n fawr bod busnesau’n dioddef eisoes oherwydd yr ansicrwydd sy’n parhau. Mae’n hanfodol cynnal hyder busnesau yn ystod y cyfnod heriol hwn – mater a bwysleisiwyd gennyf yr wythnos ddiwethaf yn Llundain, mewn cyfarfod o is-bwyllgor Cabinet Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am barodrwydd ar gyfer Brexit. Ni allwn fforddio'r difrod economaidd sy'n cael ei achosi bob dydd o ganlyniad i'r ansicrwydd ynghylch Brexit. Fel Llywodraeth gyfrifol mae dyletswydd arnom i baratoi ar gyfer pob canlyniad posibl, a pharhau y mae ein gwaith o geisio rhwystro’r effeithiau allai ddilyn ymadawiad heb gytundeb.
Rwy'n neilltuo £50 miliwn ychwanegol ar gyfer ei fuddsoddi mewn rhaglenni tai cymdeithasol llywodraeth leol, er mwyn helpu i ddarparu hyd at 650 o dai fforddiadwy ledled Cymru, a allai greu gwaith am flwyddyn i 1,000 o bobl. Wrth gymryd y cam hwn tuag at gyflawni un o'n prif flaenoriaethau, sef cynyddu nifer y tai fforddiadwy o ansawdd da sydd ar gael ar draws Cymru, byddwn hefyd yn helpu’r diwydiant adeiladu a'r gadwyn gyflenwi ehangach yng Nghymru.
Mae ein rhwydwaith ffyrdd strategol, sef ased mwyaf Llywodraeth Cymru, yn chwarae rôl hanfodol yn y gwaith o gefnogi a thyfu economi Cymru. Felly, rwy'n rhoi £5 miliwn ychwanegol tuag at gynnal y rhwydwaith er mwyn sicrhau ei fod yn ddibynadwy, yn gadarn, ac yn hwyluso teithio i bob rhan o Gymru, a bydd hynny hefyd o fantais i'r gadwyn gyflenwi arbenigol.
Yn ogystal ag ysgogi'r galw o fewn yr economi yn y tymor byr a'r tymor canolig, mae'r angen i wella a chryfhau economi Cymru yn parhau'n rhan ganolog o agenda'r llywodraeth hon. Rwy'n rhoi £10 miliwn i Gronfa Dyfodol yr Economi, gan gefnogi'r Cynllun Gweithredu ar yr Economi. Bydd y cyllid ychwanegol hwn yn cyflymu'r gwaith o ddarparu amryw o becynnau cymorth o fewn y gronfa, ar hyd a lled pob rhanbarth yng Nghymru, gan gryfhau cadernid a chynaliadwyedd i fusnesau Cymru a denu mewnfuddsoddiad yn yr amgylchedd a fydd yn bodoli ar ôl Brexit.
Bydd effeithiau Brexit i'w teimlo ym mhob rhan o Gymru, a byddant yn effeithio'n wahanol ar wahanol ardaloedd. Mae llywodraeth leol yn gwneud cyfraniad canolog i economïau eu hardaloedd, a gall buddsoddi yn eu cynlluniau cyfalaf sbarduno newidiadau pwysig yn eu cymunedau. Heddiw, rwy'n rhoi £20 miliwn ychwanegol o gyllid cyfalaf i awdurdodau lleol, a bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos â nhw er mwyn helpu i sicrhau bod cyllid yn cael ei ddefnyddio yn y mannau lle y bo'r angen mwyaf, fel rhan o'r pecyn symbylu ehangach hwn.
Yn ei gyfanrwydd, bydd y pecyn buddsoddi cyfalaf hwn yn ariannu amrywiaeth o brosiectau y gellir eu darparu'n gyflym o fewn y flwyddyn. Bydd hyn yn dod â manteision economaidd sy'n gydnaws â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru a bydd yn symbylu'r galw economaidd ehangach ar adeg pan fo angen hynny.
Nid yw'r cyhoeddiad hwn ond yn un o'r mesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu rhoi ar waith i ymateb i'r heriau difrifol i'n heconomi sy'n codi yn sgil Brexit. Ar y cyd â mentrau megis ein cronfa bwrpasol, Cronfa Bontio'r UE sy'n werth £50 miliwn, a'r pecyn Cyllid Busnes gwerth £121 miliwn, sy'n cael ei ddarparu drwy Fanc Datblygu Cymru, byddwn yn defnyddio cyfres o fesurau i baratoi ar gyfer effeithiau Brexit. Wrth inni nesáu at ddiwrnod Brexit, byddwn yn parhau i ystyried pob mesur a all amddiffyn yr economi a swyddi, gan gynnwys defnyddio rhagor o gyllid cyfalaf.