Clwb Ieuenctid Derwen –Gwasanaethau Ieuenctid Gwynedd
Enillydd
Prosiect ar ôl ysgol yw Clwb Ieuenctid Derwen a sefydlwyd ar gyfer pobl ifanc ag anableddau, gan fod angen clwb oedd yn cynnig yr un cyfleoedd â phobl ifanc sy’n mynychu clybiau prif ffrwd.
Mae’r prosiect wedi bod yn gam sylweddol i lawer o’r bobl ifanc sy’n mynychu, ac wedi grymuso pobl ifanc i adeiladu eu hyder ac ymgysylltu â phobl ifanc eraill. Nod y prosiect yw darparu amgylchedd dysgu diogel a hyblyg, gyda gweithgareddau pob dydd yn cael eu dewis gan y bobl ifanc.
Roedd y beirniaid wrth eu bodd yn darllen am y prosiect hwn a’r gwaith sy’n cael ei wneud i ddarparu’r un cyfleoedd â’u cymheiriaid i’r bobl ifanc. Prosiect cynhwysol iawn, sy’n addasu i anghenion yr unigolion.