Neidio i'r prif gynnwy
Yr Athro Peter Ghazal

Cyn-gadair ymchwil Sêr Cymru mewn meddygaeth systemau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Bu farw’r Athro Peter Ghazal ym mis Ebrill 2024, yn 62 oed. Roedd yn imiwnolegydd systemau uchel ei barch yn rhyngwladol. Symudodd i Brifysgol Caerdydd o’i swydd yng Nghaeredin i fod yn gadair Sêr Cymru mewn meddygaeth systemau. Diddordebau ymchwil yr Athro Ghazal oedd deall sut mae rhwydweithiau genynnau lletyol yn rheoli heintiau, yn arbennig o ran y llwybrau lletyol hynny sy’n ymwneud â sepsis a’r echel imiwno-metabolaidd.

Roedd yn arweinydd ym maes ymchwil drosiadol amlddisgyblaethol, fel cysylltu peirianneg â genomeg. Roedd hefyd ganddo enw rhagorol am fasnacheiddio. 

Mae ysgrif goffa gan ei gydweithwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yma.