Mewn araith yn ddiweddarach heddiw bydd y Gweinidog Brexit, Jeremy Miles, yn rhybuddio y byddai’r llanast yn sgil Brexit heb gytundeb yn bygwth dyfodol y Deyrnas Unedig.
Wrth annerch mewn digwyddiad gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru yn y Senedd, bydd yn rhybuddio y bydd angen newid y ffordd y mae gwledydd y Deyrnas Unedig yn gweithio gyda’i gilydd os yw’r undeb i barhau.
Ddwy flynedd yn ôl, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ‘Brexit a Datganoli’, cynllun sy’n ymdrin â goblygiadau Brexit i’r setliad datganoli, y berthynas rhwng llywodraethau, a chyfansoddiad y Deyrnas Unedig.
Bydd y Gweinidog Brexit yn dweud:
“Fel y mae hi ar hyn o bryd, byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ar 31 Hydref, a hynny efallai, yn gwbl drychinebus, heb gytundeb. Yn fy marn i, byddai gadael yr Undeb Ewropeaidd mewn ffordd gwbl ddi-drefn sy’n creu llanast llwyr, yn fy marn i, yn bygwth holl ddyfodol y Deyrnas Unedig, ac ni fydd diwygiadau rif y gwlith i gysylltiadau rhynglywodraethol yn gallu lliniaru’r risg honno.
“Ond, os llwyddwn ni, drwy ryw ryfedd wyrth, i adael ar 31 Hydref gyda chytundeb, dyna pryd y bydd y straen ar ein hadeiladwaith presennol yn dechrau dangos mewn gwirionedd. Bydd datrys y tensiwn hwn yn bwysicach nag erioed wrth inni symud o negodi telerau ein hymadawiad, a dechrau negodi ein perthynas â’r Undeb Ewropeaidd a’r byd yn ehangach yn y dyfodol.
“Wrth i’r broses hon fynd rhagddi, rhaid i’r gweinyddiaethau datganoledig chwarae rhan lawn wrth negodi ein cysylltiadau rhyngwladol yn y dyfodol. Rhaid cael cynnydd pendant ac ymrwymiad y bydd angen i bob ochr gyfaddawdu. Bydd hynny’n rhoi siawns inni allu sicrhau newid.
“Rydyn ni wedi cael llwyddiannau, ac mae arwyddion cadarnhaol ledled Whitehall fod y geiniog yn dechrau cwympo. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i arwain y drafodaeth, ac yn dadlau o blaid creu cyfres o strwythurau rhynglywodraethol a fydd yn gallu ateb yr heriau sy’n ein hwynebu nawr ac a fydd yn parhau i’n hwynebu yn y blynyddoedd sydd i ddod.
“Pan gyhoeddwyd ‘Brexit a Datganoli’, doedden ni ddim yn honni bod gennym ateb i bopeth.
“Fe ddywedon ni: dyma’r materion ry’n ni’n eu hwynebu yn sgil Brexit, dyma’r rhesymau pam na fydd y peirianwaith rhynglywodraethol sydd gennym ar hyn o bryd yn gweithio mwyach, a dyma ry’n ni’n ei gynnig er mwyn newid pethau.
“Ddwy flynedd yn ddiweddarach, beth sydd wedi newid? Yn syml – dim digon.
“Y dyddiau hyn, mae’n anodd i bobl dan 40 oed ddychmygu byd heb ddatganoli, ond mewn sawl ffordd mae dull Llywodraeth y Deyrnas Unedig o fynd ati yn dal i adlewyrchu agwedd hen ffasiwn iawn o gynnig ffafrau: os byddwn ni’n bihafio, bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gweld yn dda i ganiatáu inni gael rhyw gymaint o bwerau hunanlywodraethu.
“Yr un yw’r trefniadau a’r strwythurau annigonol, heb gytundeb hyd yn oed ar gynllun ar gyfer eu diwygio. Yn hynny o beth, does dim wedi newid. Does dim wedi digwydd ynglŷn â’n galwad am Gyngor Gweinidogion, nac am well trefn ar gyfer datrys anghydfodau. Ac mae hynny’n destun siom aruthrol.
“Os ydym am weld cynnydd go iawn, mae angen newid agwedd tuag at ddatganoli, yn seiliedig ar barch y naill at y llall a pharch cydradd a chyfranogiad rhwng y gwahanol lywodraethau."