Vaughan Gething AC, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Heddiw, mae Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) wedi cael ei gyflwyno i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, ynghyd â'r Memorandwm Esboniadol a'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol.
Bydd y bil yn cefnogi dull gweithredu system gyfan o sicrhau ansawdd yn y GIG; diwylliant sefydliadol o fod yn agored ac yn onest, ac ymgysylltu cyhoeddus gwell a pharhaus ynghylch cynllunio a darparu gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol integredig.
Mae ganddo bedwar prif amcan, sef:
- cryfhau'r ddyletswydd ansawdd bresennol sydd ar gyrff y GIG ac ymestyn hon i Weinidogion Cymru mewn perthynas â'u swyddogaethau iechyd
- gosod dyletswydd gonestrwydd sefydliadol ar ddarparwyr gwasanaethau'r GIG, gan ei gwneud yn ofynnol iddynt fod yn agored ac yn onest gyda chleifion a defnyddwyr gwasanaethau pan aiff pethau o'u lle
- cryfhau llais dinasyddion, drwy ddisodli'r cynghorau iechyd cymuned gyda chorff newydd ar gyfer Cymru gyfan, sef Corff Llais y Dinesydd, a fydd yn cynrychioli buddiannau pobl ar draws y maes iechyd a gofal cymdeithasol
- galluogi penodi is-gadeiryddion ar gyfer ymddiriedolaethau’r GIG, yn yr un modd â byrddau iechyd.
Dyletswydd Ansawdd
Ein nod yw creu dull gweithredu system gyfan o sicrhau ansawdd yn y gwasanaeth iechyd. Bydd y Bil, os caiff ei basio, yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru a chyrff y GIG (byrddau iechyd, ymddiriedolaethau’r GIG ac awdurdodau iechyd arbennig) i arfer eu swyddogaethau gyda golwg ar sicrhau gwelliant yn ansawdd y gwasanaethau.
Yn ymarferol, bydd hyn yn golygu y bydd yn rhaid iddynt ystyried sut y gallant wella ansawdd, gan gynnwys effeithiolrwydd y gwasanaeth, diogelwch a phrofiad y claf, wrth wneud penderfyniadau am sut y caiff gwasanaethau iechyd eu trefnu a'u darparu.
Y bwriad yw y bydd gwella ansawdd, a chanlyniadau ar gyfer pobl, yn dod yn rhan annatod a thryloyw sydd wedi'i hymwreiddio yn y broses o wneud penderfyniadau.
Bydd gofyn i Weinidogion Cymru a chyrff y GIG adrodd yn flynyddol ar y camau maent wedi'u cymryd i gydymffurfio â’r ddyletswydd hon ac asesu hyd a lled unrhyw welliant yn y canlyniadau.
Dyletswydd Gonestrwydd
Prif bwrpas y ddyletswydd gonestrwydd yw sicrhau dull gweithredu system gyfan o fod yn agored ac yn onest gyda chleifion a'u teuluoedd pan aiff pethau o'u lle. Bydd y ddyletswydd yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff GIG, gan gynnwys darparwyr gwasanaethau gofal sylfaenol, ddilyn proses benodedig pryd bynnag y bydd rhywun yn dioddef canlyniad andwyol, sydd wedi arwain, neu a allai arwain at fwy na mân niwed, a lle'r oedd y gofal iechyd a ddarparwyd yn ffactor neu lle y gallai fod wedi bod yn ffactor.
Caiff manylion yr "weithdrefn onestrwydd" hon eu hamlinellu mewn rheoliadau, sydd i'w datblygu mewn partneriaeth â rhanddeiliaid. Ond mae'r Bil yn sicrhau y bydd hyn yn cynnwys:
- rhoi gwybod i'r unigolyn dan sylw (neu ei gynrychiolydd) am y digwyddiad cyn gynted â phosibl;
- darparu pwynt cyswllt iddo;
- egluro unrhyw ymholiadau pellach sydd i'w gwneud;
- cynnig ymddiheuriad;
- trefnu cefnogaeth briodol.
Mae'r Bil yn ei gwneud yn ofynnol bod darparwyr y GIG yn adrodd yn flynyddol ar y ddyletswydd gonestrwydd, gan gynnwys pa gamau sydd wedi’u cymryd er mwyn atal digwyddiadau tebyg rhag digwydd eto. Nid diben y ddyletswydd yw bwrw bai - yn hytrach mae'n ceisio hyrwyddo diwylliant o fod yn agored gyda golwg ar wella ansawdd y gofal drwy annog dysgu ar lefel sefydliadol, ac felly osgoi digwyddiadau tebyg yn y dyfodol.
Corff Llais y Dinesydd
Cafodd yr ymrwymiad i sicrhau mwy o integreiddio rhwng gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, yn cynnwys ymgysylltiad cyhoeddus gwell a pharhaus o ran eu cynllunio a'u cyflawni, ei hyrwyddo yn yr Adolygiad Seneddol, ac mae'n allweddol i 'Cymru Iachach'.
Er mwyn gwireddu'r uchelgais hwn, ac i gryfhau llais y claf a defnyddwyr gwasanaethau, bydd y Bil yn cyflwyno Corff Llais y Dinesydd newydd, annibynnol a chenedlaethol yn lle’r cynghorau iechyd cymuned (sydd ar hyn o bryd yn cynrychioli llais y claf yn y gwasanaeth iechyd yn unig).
Bydd yn arfer ei swyddogaethau ar draws gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol – a’i brif amcan fydd cynrychioli barn y cyhoedd, gan helpu i sicrhau bod profiad yn ysgogi gwelliant.
Bydd y Corff Llais y Dinesydd newydd yn:
- ceisio barn y cyhoedd am wasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol
- cael gwneud sylwadau i gyrff y GIG ac awdurdodau lleol ynghylch unrhyw fater y mae'n ei ystyried yn berthnasol i ddarpariaeth gwasanaethau iechyd neu wasanaethau cymdeithasol, gan gynnwys newidiadau i wasanaethau. Dyma bŵer eang sy’n sicrhau fod cyrff y GIG ac awdurdodau lleol yn gwybod am yr hyn sy’n bwysig i gleifion a defnyddwyr gwasanaethau a defnyddir yr wybodaeth hon i gymell newidiadau i wasanaethau a gwella ansawdd
- rhoi cyngor a chynhorthwy i bobl sydd am wneud cwynion ynglŷn â gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol penodol
- codi ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd o'i swyddogaethau, gan gyhoeddi datganiad polisi yn amlinellu sut y bydd yn gwneud hyn a sut y mae'n bwriadu ceisio barn y cyhoedd.
Er mwyn cefnogi hyn, bydd y Bil yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff y GIG ac awdurdodau lleol wneud y canlynol:
- ystyried unrhyw sylwadau a wneir iddynt gan Gorff Llais y Dinesydd wrth arfer y swyddogaethau y mae’r sylwadau’n ymwneud â nhw
- codi ymwybyddiaeth o’r Corff Llais y Dinesydd newydd a beth y mae'n ei wneud, ymhlith y bobl sy'n derbyn, neu a allai dderbyn, gwasanaethau iechyd neu wasanaethau cymdeithasol
- rhoi unrhyw wybodaeth i Gorff Llais y Dinesydd y mae'n gofyn yn rhesymol amdani.
Caiff manylion angenrheidiol cyfansoddiad y corff a materion cysylltiedig, gan gynnwys penodiadau a diswyddiadau aelodau, penodiadau staff, ei drefn lywodraethu, a materion ariannol eu hamlinellu ar wyneb y Bil. Bydd manylion pellach ar gael yn y canllawiau. Bob blwyddyn, rhaid i Gorff Llais y Dinesydd lunio cynllun yn dangos sut y mae'n bwriadu cynnal ei swyddogaethau, ac ar ddiwedd pob blwyddyn, adrodd ar sut y mae wedi gwneud hyn.
Is-gadeiryddion ymddiriedolaethau'r GIG
Ar hyn o bryd, mae gan ymddiriedolaethau’r GIG y pŵer i benodi is-gadeirydd i'w bwrdd, ond nid yw’r trefniadau presennol ond yn caniatáu iddynt benodi o blith eu haelodau annibynnol presennol ac mae’n cyfyngu'r rôl i ddirprwyo ar ran y cadeirydd pan na fydd ar gael neu pan na fydd yn medru cyflawni ei gyfrifoldebau.
Mae’r bil yn cyflwyno pŵer i Weinidogion Cymru benodi is-gadeirydd i fwrdd ymddiriedolaeth y GIG, gan gryfhau prosesau llywodraethu’r sefydliadau pwysig hyn.
Bydd is-gadeiryddion yn cyfrannu'n llawn at waith ymddiriedolaethau’r GIG, yn gwella prosesau llywodraethu a gwneud penderfyniadau, ac yn sicrhau cysondeb ar draws y GIG yng Nghymru.