Mae'r adroddiad yn rhoi dadansoddiad o'r cronfeydd ariannol wrth gefn a ddelir gan ysgolion ar 31 Mawrth 2019.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Cronfeydd wrth gefn ysgolion
Prif bwyntiau
Cyfanswm lefel y cronfeydd wrth gefn yn ysgolion Cymru oedd £46 miliwn ar 31 Mawrth 2019, sy'n gyfwerth â £102 y disgybl. O'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol, roedd cyfanswm lefel y cronfeydd wrth gefn wedi gostwng 7.9%. Roedd cronfeydd wrth gefn mewn ysgolion cynradd yn cyfrif am £47 miliwn.
Caiff y gostyngiad cyffredinol yn y cronfeydd wrth gefn ei llywio gan ysgolion uwchradd lle parhaodd cronfeydd wrth gefn i ostwng a bellach maent mewn diffyg o £4.4 miliwn. Mewn cyfanswm, roedd gostyngiad o £4.0 miliwn mewn cronfeydd wrth gefn.
Roedd gan Abertawe y lefel uchaf o gronfeydd wrth gefn fesul disgybl, sef £251, a Sir Fynwy yr isaf, gyda diffyg o £22 y disgybl.
Ers y dirywiad economaidd a'r mesurau cyni a gafodd eu cyflwyno yn sgil hynny, roedd gan nifer cynyddol o ysgolion gronfeydd wrth gefn negyddol neu lefel is o gronfeydd wrth gefn. Mae gan 10% o ysgolion gronfeydd wrth gefn gwerth dros 10% o gyfanswm y gwariant, hanner y ganran ddegawd yn ôl.
Roedd gan 151 o ysgolion cynradd, 77 o ysgolion uwchradd, 8 o ysgolion arbennig, 1 ysgol feithrin a 10 ysgol ganol yng Nghymru gronfeydd wrth gefn negyddol a oedd yn gyfwerth â £29 miliwn. Roedd gan y 1,287 o ysgolion eraill gronfeydd wrth gefn positif; roedd gan 150 ohonynt gronfeydd wrth gefn gwerth mwy na 10% o gyfanswm y gwariant a glustnodwyd ar eu cyfer.
Adroddiadau
Cronfeydd wrth gefn ysgolion, ar 31 Mawrth 2019 (Diwygiedig) , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 478 KB
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.cyllid@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.