Yr Athro Elwen Evans QC Comisiynydd
![Yr Athro Elwen Evans QC](/sites/default/files/styles/photo_small/public/key-people/_AJM6380_600x400.jpg?itok=134y4SiM)
Mae'r Athro Elwen Evans yn aelod o’r Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru
Mae'r Athro Evans yn un o brif fargyfreithwyr troseddol Prydain, a hi oedd yn arwain yr erlyniad yn achos llofruddiaeth April Jones a thîm yr amddiffyniad yn achos trychineb pwll glo’r Gleision. Mae'n Gofiadur yn Llys y Goron a chafodd ei phenodi’n Bennaeth Coleg Cyfraith a Throseddeg Prifysgol Abertawe yn 2015.