Heddiw mae Dirprwy Weinidog yr Economi, Lee Waters, wedi annog Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i gynyddu caffael lleol. Mae hyn yn rhan o'r gwaith o greu cadwyni cyflenwi lleol mwy cadarn a chreu cyfoeth mewn cymunedau ar draws Cymru.
Wrth i'r Dirprwy Weinidog siarad mewn digwyddiad ymgysylltu â Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a oedd yn canolbwyntio'n benodol ar yr Economi Sylfaenol, pwysleisiodd ei fod yn benderfynol o gydweithio â'r Byrddau a'u galluogi i elwa i'r eithaf ar werth cymdeithasol caffael.
Dywedodd Lee Waters:
"Rydym yn awyddus i greu cyfoeth o fewn ein cymunedau drwy annog caffael lleol. Golyga hyn ddysgu o arferion da presennol fel yr hyn sy'n digwydd yn Preston, lle mae gwaith rheoli caffael ac adfywio economaidd sy'n canolbwyntio ar le ac a arweinir gan y Cyngor wedi atgyfnerthu'r gadwyn gyflenwi leol ac wedi sicrhau bod sefydliadau allweddol wedi cadw dros 70% o'r gwariant o fewn yr ardal.
"Mae'r gwaith yma'n agwedd gwbl allweddol ar yr Economi Sylfaenol y mae Llywodraeth Cymru'n awyddus iawn i'w chreu, ac mae'n rhaid i gyrff cyhoeddus chwarae rhan ganolog ynddo.
"Trwy annog y gwaith o gyd-gynhyrchu gwasanaethau cyhoeddus ac atebion blaengar rhwng sefydliadau angori gallwn greu cadwyni cyflenwi lleol a helpu i sicrhau bod ein cymunedau yn elwa i'r eithaf ar bob ceiniog o'r gwariant yng Nghymru. Rwy'n awyddus i sicrhau cydweithio er mwyn creu atebion newydd a chreadigol i heriau economaidd lleol sy'n cyflawni dros gymunedau Cymru - dyma atebion y byddai modd eu lledaenu a'u hehangu'n gyflym ar draws Cymru. Mae Cronfa Her yr Economi Sylfaenol, sydd werth £3 miliwn ac a lansiwyd yn ddiweddar, yn un ffordd o helpu i gyflawni'r newid yma.
"Gwn fod llawer iawn o waith da ac ewyllys da o fewn ein Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus felly hoffwn annog pawb heddiw i sicrhau bod hyn yn sbarduno cymaint â phosibl o bartneriaethau, lle y mae pobl yn cydweithio ac yn defnyddio caffael fel ffordd o greu cyfoeth o fewn ein cymunedau.
Mae'r Economi Sylfaenol yn cynnwys BBaChau, meicrofusnesau a mentrau cymdeithasol, sydd oll wedi'u lleoli o fewn ein cymunedau ac sy'n darparu gwasanaethau a nwyddau sydd eu hangen ar bobl ac sy'n bwysig iddynt. Mae swyddi fel adeiladwyr cartrefi a darparwyr gofal, pobl trin gwallt, gosodwyr pibellau cyfleustodau a dylunwyr soffas oll yn helpu i ddarparu'r nwyddau a'r gwasanaethau rydym yn eu defnyddio bob dydd ac sy'n gwneud ein bywydau yn haws.