Cylch gorchwyl
Cylch gorchwyl am y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru
Adolygu gweithrediad y system gyfiawnder yng Nghymru a gosod gweledigaeth hirdymor ar gyfer y dyfodol, gyda'r nod o:
- hyrwyddo gwell canlyniadau o ran mynediad at gyfiawnder, gostwng nifer yr achosion o droseddu a hybu'r broses adsefydlu;
- sicrhau bod y trefniadau awdurdodaethol ac addysg gyfreithiol yn adlewyrchu ac yn edrych ar swyddogaeth cyfiawnder yn llywodraethiant a ffyniant Cymru yn ogystal â materion neilltuol sy'n codi yng Nghymru;
- hyrwyddo cadernid a chynaliadwyedd sector gwasanaethau cyfreithiol Cymru a sicrhau'r cyfraniad mwyaf posibl i ffyniant Cymru.
Bwriad y Comisiwn yw cyflwyno adroddiad o’u canfyddiadau a’u hargymhellion.