Gwybodaeth am wariant, Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl ac ardaloedd adnewyddu ar gyfer Ebrill 2018 i Fawrth 2019.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Cymorth ar gyfer gwelliannau tai
Prif bwyntiau
Yn ystod 2018-19, £45.7 miliwn oedd cyfanswm gwariant ar gymorth i wella tai (gan gynnwys Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl (DFGs). Parhaodd yn weddol sefydlog (gostyngiad o lai na 1%) o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. O’r 22 awdurdod lleol, cofnododd 11 ostyngiad yng nghyfanswm y gwariant.
Yn ystod 2018-19, cwblhawyd 4,086 o Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl Gorfodol (DFGs) gyda chyfanswm gwerth o £32.3 miliwn gan awdurdodau lleol yng Nghymru, Mae hyn yn cynrychioli bron tri chwarter (71%) yr holl wariant ar adnewyddu’r sector breifat.
Yn 2018-19, gostyngodd nifer yr ardaloedd adnewyddu a oedd yn weithredol i 4. Gostyngodd cyfanswm y gwariant yn y ardaloedd hyn i £1.4 miliwn.
Adroddiadau
Cymorth ar gyfer gwelliannau tai, Ebrill 2018 i Mawrth 2019 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.tai@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.