Vaughan Gething, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Dafydd Elis-Thomas, Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth
Heddiw, mewn partneriaeth â Chwaraeon Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, rydym yn cyhoeddi enwau'r 17 o brosiectau a fydd yn elwa ar ein Cronfa Byw'n Iach ac Egnïol gwerth £5.4m. Bydd pob un o'r prosiectau hyn yn cyfrannu at wella asedau cymunedol a galluogi pobl i fyw'n fwy iach.
Pan gafodd ein Cronfa Byw'n Iach ac Egnïol ei lansio fis Gorffennaf y llynedd, pwysleisiwyd bod y manteision i'n hiechyd meddyliol a chorfforol a ddaw o fyw'n iach ac yn egnïol, yn glir. Mae'r prosiectau hyn yn dangos ffyrdd newydd ac arloesol o gefnogi pobl o bob oedran a chefndir.
Mae’r holl brosiectau llwyddiannus yn rhai cydweithredol a chânt eu darparu gan ystod o bartneriaid. Maent yn cynnwys cynrychiolwyr o bob rhan o Gymru, gan gynnwys ardal Tasglu'r Cymoedd. Mae'r prosiectau a ddewiswyd yn ceisio lleihau anghydraddoldebau o ran canlyniadau a rhwystrau mewn amrywiaeth o ffyrdd. O weithio ar draws cenedlaethau i arddio; annog teuluoedd i gadw'n heini gyda'u babanod newydd; a chynyddu gweithgareddau corfforol a chymdeithasol i bobl sy'n byw mewn cartrefi gofal. Mae prosiectau eraill yn ceisio cefnogi pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl i fyw bywydau annibynnol a heini yn yr hirdymor, ac mae un yn defnyddio atgofion am chwaraeon i helpu pobl sydd â dementia.
Dyma'r 17 o brosiectau llwyddiannus:-
- ‘Sporting Memories’ – Dan arweiniad Cwmni Buddiant Cymunedol Sporting Memories Network
- ‘Growing Together’ – Dan arweiniad Cadwch Gymru'n Daclus
- ‘Balanced Lives for Care Homes’ – Dan arweiniad Action for Elders Trust
- ‘HAPPy’ – Dan arweiniad yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
- ‘Super-Agers’ – Dan arweiniad Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
- ‘Dewch i Gerdded Gorllewin Cymru’ – Dan arweiniad Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
- ‘Coed Actif Cymru' – Dan arweiniad Coed Lleol
- ‘Rhaglen Blynyddoedd Cynnar Actif Cymru’ – Dan arweiniad Blynyddoedd Cynnar Cymru
- ‘Casnewydd Iach ac Actif’ – Dan arweiniad Casnewydd Fyw
- ‘Llysgenhadon Chwarae’ – Dan arweiniad Chwarae Cymru
- ‘Babi Actif’ – Dan arweiniad Eryri-Bywiol Cyf
- ‘Healthy Body – Healthy Mind Project’ – Dan arweiniad Women Connect First
- ‘Pum ffordd at Les’ – Dan arweiniad Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- ‘StreetGames’ - Dan arweiniad Street Games UK Ltd
- ‘Opening Doors to the Outdoors’ – Dan arweiniad y Bartneriaeth Awyr Agored
- ‘Cyfeillion Cerdded Cymru’ – Dan arweiniad Living Streets Cymru
- ‘BeActive RCT’ – Dan arweiniad Interlink Rhondda Cynon Taf