Adroddiad y rhaglen hyfforddeiaethau ar gyfer cylch 2015 i 2019. Mae’r hyfforddeiaethau yn cyfuno cymysgedd o hyfforddiant sgiliau meddal a sgiliau hanfodol gyda chyfnod o brofiad gwaith.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Gwerthusiad o’r Rhaglen Hyfforddeiaethau
Nod y rhaglen gyfredol, sy'n canolbwyntio ar bobl ifanc 16-19 oed, yw i leihau cyfran y bobl ifanc yng Nghymru a ystyrir yn heb fod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant (NEET). Mae hefyd yn ceisio hwyluso eu dilyniant i gyflogaeth neu ddysgu pellach.
Mae'r adroddiad gwerthuso terfynol ar gyfer y rownd hon o'r rhaglen yn archwilio:
- yr effaith a gafodd y rhaglen yn ei chanlyniadau caled a meddal
- gwerth cyffredinol y rhaglen drwy ddadansoddiad cost a budd
- gwersi a ddysgwyd ar gyfer cyflwyno rhaglenni tebyg yn y dyfodol a sut y gellir ailadrodd ac elwa ohonynt.
Mae cyfres o gasgliadau ac argymhellion ar gyfer dyfodol y rhaglen wedi'u cynnwys yn yr adroddiad.
Mae hyfforddeiaethau'n cael eu hariannu'n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru.
Adroddiadau
Gwerthusiad o’r Rhaglen Hyfforddeiaethau: adroddiad terfynol, 2015 i 2019 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
Gwerthusiad o’r Rhaglen Hyfforddeiaethau: adroddiad terfynol, 2015 i 2019 (crynodeb) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 671 KB
Cyswllt
Hannah Davies
Rhif ffôn: 0300 025 0508
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.