Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi dros £650,000 mewn cwmni technoleg cyllid er mwyn creu 80 o swyddi a fydd yn talu'n dda mewn canolfan datblygu meddalwedd newydd yng Nghaerdydd.
Bydd cyfanswm o £651,000 yn cael ei roi i gwmni rheoli meddalwedd Link Data Management Solutions (LDMS) i sefydlu ei bencadlys yn Nhŷ Southgate. Bydd 20 o staff yn symud yno o Gaerffili a bydd gweddill y swyddi'n cael eu creu dros gyfnod o bedair blynedd.
Ymhlith y swyddi y bydd y cwmni'n recriwtio ar eu cyfer fydd saerniwyr a datblygwyr meddalwedd, a fydd yn ennill cyflog cyfartalog o ychydig yn llai na £48,000, sydd gryn dipyn yn uwch na'r cyfartaledd yng Nghymru.
Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi:
“Mae Llywodraeth Cymru yn falch o gael cefnogi'r sector technoleg cyllid. Link Management Group yw un o'r cwmnïau mwyaf yn y sector rheoli credyd ac rydyn ni’n falch o gael helpu LDMS i farchnata'r feddalwedd newydd arloesol hon i amrywiaeth enfawr o sefydliadau ariannol. Bydd yn arwain at greu 80 o swyddi ar gyfer pobl broffesiynol medrus iawn.
Mae LDMS yn rhan o'r Link Financial Group, un o'r cwmnïau mwyaf dibynadwy yn Ewrop ym maes ymdrin â benthyciadau ar gyfer defnyddwyr a busnesau. Mae wedi creu cymwysiadau meddalwedd ar gyfer sefydliadau ariannol fel banciau er mwyn iddynt fedru rheoli dyledion cardiau credyd a benthyciadau yn fwy effeithiol.
Dywedodd rheolwr-gyfarwyddwr LDMS, Chris Whitcombe:
"Rydyn ni’n falch iawn o gael agor ein pencadlys yng nghanol Caerdydd. Mae mewn lleoliad da iawn ar gyfer ein cleientiaid a'n staff, ac mae'r amgylchedd yn y swyddfa'n ddelfrydol ar gyfer ein tîm technegol, sy'n prysur dyfu.
Gan gydweithio â Llywodraeth Cymru, byddwn yn cyflogi 80 yn rhagor o bobl dros y blynyddoedd nesaf, a bydd hynny'n caniatáu inni fuddsoddi mwy mewn datblygu'n cynhyrchion, sydd ar flaen y gad yn y diwydiant. Bydd yn golygu hefyd y byddwn yn fwy abl i ddiwallu anghenion y niferoedd cynyddol o gwsmeriaid sydd gennym ledled y byd.