Mae Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, wedi rhoi rhybudd cryf nad yw Cymru yn gwybod o hyd beth fydd yn digwydd i filiynau o bunnoedd o fuddsoddiad rhanbarthol oherwydd diffyg eglurder gan Lywodraeth y DU.
Cyn dadl yn y Cynulliad Cenedlaethol ar y ‘Gronfa Ffyniant Gyffredin’ dywedodd Rebecca Evans:
“Mae’r ffordd gwbl ddi-drefn y mae Llywodraeth y DU wedi mynd i’r afael â Brexit i’w gweld yn y penderfyniadau ynghylch sut yn union bydd y £370m y flwyddyn o gyllid hanfodol sy’n dod o gronfeydd strwythurol a buddsoddi'r UE yng Nghymru ar hyn o bryd yn cael ei ddarparu yn y dyfodol.
“Mae’r cronfeydd hyn wedi mynd tuag at greu 48,000 o swyddi newydd a 13,000 o fusnesau newydd yng Nghymru ac wedi cynorthwyo 25,000 o fusnesau a helpu 86,000 o bobl i ddod o hyd i swyddi. Diolch i gyllid yr UE, mae’r ddarpariaeth band eang wedi gwella yng Nghymru, ac mae ein gallu ymchwil wedi cynyddu. Mae cyllid o’r cronfeydd hyn wedi mynd hefyd tuag at ynni adnewyddadwy, a datblygu seilwaith hanfodol ar gyfer trafnidiaeth, twristiaeth a busnesau.
“Ddwy flynedd yn ôl, awgrymodd Llywodraeth y DU y syniad o ddisodli’r cronfeydd hyn gyda ‘Cronfa Ffyniant Gyffredin’. Ond rydyn ni’n dal i aros am unrhyw wybodaeth o gwbl am sut y bydd y gronfa hon yn gweithio. Rydyn ni wedi bod yn gyson ac yn glir gyda’n neges na fyddwn yn derbyn unrhyw gynnig a fydd yn ceisio diystyru'r setliad datganoli neu dynnu’n ôl benderfyniadau a chyllid sydd wedi bod yn nwylo Cymru ers bron i 20 mlynedd. Mae’n hanfodol nad yw Cymru’n colli’r un geiniog oherwydd Brexit.
“Rydyn ni wedi cyhoeddi cynigion manwl ynglŷn â’r ffordd y gallai buddsoddi rhanbarthol weithio ar ôl i’r DU ymadael â’r UE. Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda llywodraeth leol, busnesau a chymunedau ledled Cymru i roi trefniadau newydd ar waith. Byddwn ni’n defnyddio cyllid a ddaw yn lle cyllid yr UE i fuddsoddi mewn datblygu economaidd rhanbarthol a lleihau anghydraddoldebau, ac rydyn ni’n gweithio gyda’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd i benderfynu ar ein dull at y dyfodol.
“Dw i’n galw ar Lywodraeth y DU i gadarnhau ar fyrder y bydd Llywodraeth Cymru yn cael cyllid ac ymreolaeth ar gyfer pennu trefniadau’r dyfodol er mwyn sicrhau nad oes unrhyw risg i’n pobl, ein busnesau na’n cymunedau yma yng Nghymru.”