Mae'r data’n cynnwys nifer y trafodiadau tir ac eiddo, y dreth a oedd yn ddyledus a gwerth yr eiddo a drethwyd.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Treth Trafodiadau Tir
Mae’r datganiad hwn yn cyflwyno cipolwg cryno ar y trafodiadau Treth Trafodiadau Tir hysbysadwy a ddaeth i law erbyn diwedd 15 Gorffennaf 2019.
Pwyntiau allweddol
Ar gyfer trafodiadau hysbysadwy wedi’u hadrodd y Dreth Trafodiadau Tir gyda dyddiad dod i rym yn Ebrill i Fehefin 2019:
- 14,500 o drafodiadau a £47.8 miliwn o dreth yn ddyledus;
- 13,100 o drafodiadau preswyl gyda £37.4 miliwn o dreth yn ddyledus;
- o'r rhain, £15.7 miliwn o refeniw ychwanegol ei godi o gyfraddau uwch y dreth breswyl; a
- o'r rhain, £15.7 miliwn o refeniw ychwanegol ei godi o gyfraddau uwch y dreth breswyl; a
- 1,400 o drafodiadau amhreswyl, gan arwain at £10.4 miliwn o dreth yn ddyledus.
Rhagor o wybodaeth
Amodol yw’r amcangyfrifon cychwynnol hyn. Byddwn ni’n adolygu’r amcangyfrifon hyn yn y cyhoeddiad nesaf ar yr ystadegau. Y rheswm am hyn yw bod sefydliadau’n dal I fod yn gallu adrodd ynghylch trafodiadau pellach ar gyfer mis Mehefin. Mae gan sefydliadau 30 diwrnod ar ôl dyddiad y trafodiad i roi gwybod amdanynt i’r Awdurdod.
Mae tablau data a'r data a ddefnyddir mewn siartiau yn y datganiad ystadegol ar gael mewn taenlen yn adran 'Data' y dudalen hon. Mae setiau data manwl ar gyfer pob un o ystadegau'r Dreth Trafodiadau Tir ar gael ar wefan StatsCymru.
Adroddiadau
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir: Ebrill i Mehefin 2019 , math o ffeil: XLSX, maint ffeil: 1 MB
Dadansoddiad o ddiwygiadau i ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir hyd at Mehefin 2019 , math o ffeil: XLSX, maint ffeil: 2 MB
Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir: Dadansoddiad manwl o drafodion yn ôl gwerth trafodion , math o ffeil: XLSX, maint ffeil: 2 MB
Cyswllt
Dave Jones
Rhif ffôn: 03000 254 729
E-bost: data@acc.llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 03000 254 770
E-bost: newyddion@acc.llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.