Rebecca Evans AC, y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd
Heddiw, cyhoeddodd y Pwyllgor Materion Cymreig ganfyddiadau ei ymchwiliad i ddatganoli Toll Teithwyr Awyr i Gymru. Mae'r Pwyllgor wedi argymell yn unfrydol y dylai Llywodraeth y DU drosglwyddo rheolaeth lawn dros y Doll yng Nghymru i Lywodraeth Cymru erbyn 2021.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dadlau'n gyson nad oes unrhyw gyfiawnhad dros drin Cymru yn wahanol i'r Alban neu Ogledd Iwerddon o ran datganoli'r Doll Teithwyr Awyr. Rydym felly'n croesawu'r ffaith fod y Pwyllgor yn cydnabod bod y broses ddatganoli yn un annheg.
Ceir cefnogaeth unfrydol gan y sector hedfan, twristiaeth a busnes yng Nghymru i ddatganoli'r Doll Teithwyr Awyr, a thystiolaeth gadarn yn dangos y manteision economaidd a allai ddod yn sgil y cynnig, gan roi hwb i'r sector hedfan a'r economi ehangach. Mae'r rhain yn flaenoriaethau pwysig i Lywodraeth Cymru, a byddant hyd yn oed yn bwysicach ar ôl Brexit.
Os caiff y Doll Teithwyr Awyr ei datganoli i Gymru, byddai penderfyniadau Llywodraeth Cymru ar gyfraddau'r Doll yn y dyfodol yn ystyried yn llawn yr effeithiau posibl ar yr amgylchedd, gan gynnwys allyriadau carbon, er mwyn bodloni gofynion statudol Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) (2015) a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Caiff yr asesiad hwn ei wneud gan ystyried pa bwerau a fyddai'n cael eu datganoli a'r amgylchiadau ar yr adeg pan fyddai unrhyw benderfyniadau'n cael eu gwneud gan Lywodraeth y DU ynghylch datganoli. Byddai unrhyw newidiadau a gynigir hefyd yn destun ymgynghoriad llawn gyda busnesau a phobl Cymru.
Rydym yn croesawu canfyddiadau'r Pwyllgor, ac yn diolch i'r aelodau am eu gwaith dros gyfnod yr ymchwiliad. Rydym nawr yn galw ar Lywodraeth y DU i ymateb yn brydlon i argymhellion y Pwyllgor, ac i ddatganoli'r Doll Teithwyr Awyr i Gymru yn llawn erbyn 2021.
Gallwch weld adroddiad ymchwiliad y Pwyllgor Materion Cymreig ar ddatganoli Toll Teithwyr Awyr i Gymru drwy'r ddolen isod:
https://publications.parliament.uk/pa/cm201719/cmselect/cmwelaf/1575/full-report.html