Heddiw, cadarnhaodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, y bydd Cymru yn derbyn argymhelliad y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd (CCC) ar gyfer gweld lleihad o 95% mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr erbyn 2050, gydag uchelgais o gyrraedd targed o sero o ran allyriadau carbon.
Mewn ymateb i gais gan Lywodraethau Cymru, yr Alban a'r DU i ailasesu targed allyriadau hirdymor y DU, cyhoeddodd y CCC ei bapur 'Net Zero - the UK's contribution to global warming' ym mis Mai.
Drwy anelu at gyrraedd targed o sero, Llywodraeth Cymru fydd yr unig Lywodraeth a fydd yn ystyried rhagori ar argymhellion y CCC.
Bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno rheoliadau i'r Cynulliad y flwyddyn nesaf i ddiwygio'r targed presennol ar gyfer 2050, a diwygio targedau dros dro a chyllidebau carbon Cymru yn ôl yr angen.
Ym mis Mawrth, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chynllun carbon isel sy'n cynnwys proffiliau manwl o allyriadau fesul sector a 100 o bolisïau a chynigion i sicrhau Cymru carbon isel. Ychydig yn ddiweddarach, cyhoeddodd y Gweinidog argyfwng ar yr hinsawdd i gryfhau a galfaneiddio camau gweithredu i ymdrin â newid hinsawdd yma yng Nghymru ac yn rhyngwladol.
Wrth dderbyn yr argymhelliad, dywedodd y Gweinidog:
"Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor ar Newid Hinsawdd am ei gyngor. Rydyn ni'n ymrwymedig i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr er mwyn cyfrannu at gyrraedd y targed o sero ar gyfer y DU. Byddai cyflawni'r targedau hyn yn golygu bod cyfraniad y DU at gynhesu byd-eang yn dod i ben o fewn 30 mlynedd a’i bod yn cyflawni ein hymrwymiadau dan Gytundeb Paris".
"Felly rwy'n derbyn argymhellion y CCC ar gyfer gweld lleihad o 95% yng Nghymru. Ond rwyf am fynd ymhellach a heddiw rwy'n datgan ein huchelgais i gyflwyno targed yng Nghymru i gyrraedd targed net lle bydd allyriadau yn gostwng i sero cyn 2050. Er mwyn nodi cyfleoedd lle y mae modd datgarboneiddio'n fwy yng Nghymru, byddaf yn gweithio'n agos gyda'r CCC a rhanddeiliaid eraill".
Heddiw, mae'r Gweinidog hefyd wedi annog Llywodraeth y DU i sicrhau bod y costau sydd ynghlwm wrth gyrraedd targed o sero yn cael eu gwasgaru ar draws y DU a gofynnodd fod yr holl lywodraethau'n cydweithio'n well i gyrraedd targedau’r DU.
Ychwanegodd y Gweinidog:
"Mae'n hollbwysig bod Llywodraeth y DU yn sicrhau bod y costau a'r manteision sydd ynghlwm wrth gyrraedd targed o sero yn cael eu gwasgaru'n deg ar draws y DU, gan gynnwys cymorth i weithwyr a defnyddwyr dan fygythiad. Pan fo Llywodraeth y DU yn parhau i feddu ar y prif ddulliau ysgogi, mae'r un mor bwysig ei bod yn ystyried sut y byddai ei pholisi o ran datgarboneiddio'r economi yn effeithio ar ein gallu ni yng Nghymru i gyrraedd ein targed heriol.
"Roedd cyngor y CCC yn cydnabod bod angen cydweithio ar draws y DU. Rwy'n cytuno - dim ond os yw Llywodraethau'r DU yn cydweithio'n agosach ar y mater hwn y gallwn gyrraedd unrhyw darged y DU. Dyna pam fy mod wedi gofyn am gyfarfod gyda fy nghydweithwyr yn y DU a'r Alban i drafod sut y byddwn yn ymdrin â'r newid yn yr hinsawdd gyda'n gilydd".