Mae Prifysgol Caerdydd wedi sicrhau £3.6m o gyllid yr UE i greu cyfleuster ymchwil newydd a fydd yn helpu diwydiannau Cymru i ddatblygu cynnyrch glanach, rhatach a mwy gwyrdd.
Bydd yr EMF (Electron Microscope Facility) yn cael ei adeiladu ar Gampws Arloesi'r Brifysgol ar Heol Maendy, ac yn cefnogi ymchwil o'r radd flaenaf mewn catalyddu - y broses o gyflymu adweithiau cemegol i ddatblygu ffyrdd rhatach, glanach a mwy diogel o gynhyrchu nwyddau.
Bydd y cyfleuster yn cynnwys cyfres o ficrosgopau arbennig o sensitif y genhedlaeth nesaf er mwyn caniatáu i ymchwilwyr astudio deunyddiau a phrosesau ar raddfa atomig.
Cafwyd cymorth hefyd gan £750,000 o fuddsoddiad gan Sefydliad Wolfson a £4.3m gan Brifysgol Caerdydd.
Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit, Jeremy Miles:
"Bydd y buddsoddiad hwn yn cefnogi prosiectau ymchwil sylweddol ar y cyd rhwng Prifysgol Caerdydd a byd diwydiant, gan arwain at ddatblygu technegau cynhyrchu newydd, arloesol a chynaliadwy.
"Bydd ymchwil yn y cyfleuster hwn hefyd yn helpu'r Deyrnas Unedig i newid i fod yn economi cynaliadwy, carbon isel - ac yn rhoi hwb i Brifysgol Cymru, a Chymru gyfan, fel canolfan ar gyfer astudiaethau gwyddonol.
"Mae Cymru'n parhau i elwa'n aruthrol ar gyllid yr Undeb Ewropeaidd, a dyma enghraifft arall o'r buddsoddiad hwn yn cryfhau ein heconomi gan ein gosod unwaith eto ar flaen y gad."
Dywedodd yr Athro Rudolf Allemann, Dirprwy Is-ganghellor a Phennaeth Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg:
"Does dim un cyfleuster tebyg i'r EMF yn bodoli yng Nghymru. Mae gan y cyfleuster rôl hanfodol i'w chwarae i gefnogi busnesau yn y De-ddwyrain, gan feithrin darganfyddiadau arloesol a gwella enw da Caerdydd am ymchwil ac arloesi o'r radd flaenaf.”
Dros y degawd diwethaf, mae prosiectau wedi'u hariannu gan yr UE yng Nghymru wedi creu dros 48,000 o swyddi a 13,000 o fusnesau newydd, gan helpu 86,000 o bobl yn ôl i gael gwaith.