Mae annog rhagor o bobl i fwynhau'r awyr agored ac i werthfawrogi tirweddau hardd Cymru yn rhan o'r dathliadau i nodi saith mlynedd ers agor 870 milltir eiconig Lwybr Arfordirol Cymru.
Diolch i fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru, mae cerflun newydd wedi cael ei gomisiynu i nodi pwynt hanner ffordd y llwybr, o'r enw 'Fair Winds and Following Seas’. Yn ogystal, mae ap newydd i ymwelwyr yn cael ei ddatblygu ac mae £500,000 ychwanegol wedi cael ei fuddsoddi mewn prosiectau i wella'r Llwybr Arfordirol a Llwybrau Cenedlaethol, gan gynnwys prosiectau yn y Trallwng, Gwynedd a Sir Benfro.
Gyda chyllid gan Gronfa Ymgysylltu Twristiaeth Ranbarthol Croeso Cymru, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn creu'r ap realiti estynedig i annog rhagor o bobl i fwynhau'r awyr agored, drwy wybodaeth weledol ddiddorol, storïau addysgiadol a gemau rhyngweithiol. Bydd hefyd yn cynnwys amrywiaeth eang o bynciau fel mythau a chwedlau lleol, fflora a ffawna, bywyd gwyllt, hanes lleol, llongddrychiadau dirgel a ffeithiau annisgwyl.
Cafodd y cerflun newydd ei greu gan David Appleyard, a'i ddatblygu drwy drafodaeth agos â'r gymuned yng Ngheinewydd lle mae wedi’i leoli. Mae'n gerflun o dduw efydd yn chwythu cusan i'r gwynt fel arwydd o lwc ar gyfer yr holl deithwyr sy'n mynd heibio iddo.
Mae'n gyfeiriad at fendithion hen forwyr ac yn cydnabod y mordeithiau hanesyddol o amgylch arfordir Cymru, a'u rhoi ochr yn ochr â theithiau'r oes sydd ohoni ar hyd Llwybr Arfordir Cymru. Mae'r bardd blaenllaw o Gymru Samantha Wynne Rhydderch, sy'n byw yng Ngheinewydd, wedi ysgrifennu cerdd i fynd gyda'r cerflun.
Mae pecyn cymorth ar gyfer busnesau ar yr arfordir wedi cael ei ddylunio i helpu'r sefydliadau hynny i farchnata eu gwasanaethau drwy bŵer y llwybr i ddenu ymwelwyr, ynghyd a'r manteision mae hynny'n eu darparu. Mae'r adnodd ar-lein hwn yn rhad ac am ddim ac yn hawdd ei ddefnyddio, ac mae'n rhoi mynediad i fusnesau at amrywiaeth eang o ddeunyddiau a gwybodaeth – gan gynnwys logos, eitemau newyddion, posteri a fideos i'w defnyddio ar gyfer marchnata a hyrwyddo ar-lein ac all-lein.
Dywedodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth:
"Ers cael ei agor yn 2012, mae Llwybr Arfordir Cymru wedi'i sefydlu ei hun fel enghraifft ddisglair o harddwch ein gwlad. Mae'r llwybr yn estyn o amgylch ein holl arfordir – y cyntaf o'i fath yn y byd.
"Mae'r llwybr yn gwneud cyfraniad enfawr at economi Cymru – rydyn ni'n amcangyfrif ei fod yn creu tua £84 miliwn y flwyddyn drwy wariant ymwelwyr, gan gynnal dros 1,000 o swyddi.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn:
"Mae gan Gymru arfordir cyffrous ac amrywiol, ac yn y Flwyddyn Darganfod hon hoffwn i annog pawb i fynd allan a'i fwynhau drostyn nhw eu hunain.
"Rydyn ni'n gweithio i sicrhau bod manteision y llwybr yn cael eu gwerthfawrogi a'u mwynhau gan bobl a chymunedau ledled y wlad, yn enwedig pawb sy'n byw ac yn gweithio ar bwys ein harfordir.
"Mae llwyddiant Llwybr Arfordir Cymru, a'n hymrwymiad i ddiwygio hawliau mynediad yn fwy cyffredinol yn sicrhau ein bod yn parhau i adeiladu ar y llwyddiant hwn er lles pawb yng Nghymru."