Daeth yr ymgynghoriad i ben 28 Gorffennaf 2013.
Crynodeb o’r canlyniad
Mae'r crynodeb o ymatebion bellach ar gael. Daeth 55 o ymatebion ysgrifenedig i law yn sgil yr ymgynghoriad ar y Papur Gwyn a diwygiwyd cynigion Llywodraeth Cymru o ganlyniad i'r adborth.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o'r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 296 KB
Ymatebion ymgynghori : rhan 1 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
Ymatebion ymgynghori : rhan 2 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Mae'r ymgynghoriad technegol hwn yn holi barn am sut y dylai'r system reoleiddio ddiwygiedig weithredu o fewn y fframwaith arfaethedig.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Roedd Papur Gwyn y Bil Addysg Bellach ac Uwch (Cymru) a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2012 yn amlinellu cynigion Llywodraeth Cymru ynghylch diwygio fframwaith rheoleiddio presennol addysg uwch.
Mae dau bwrpas i'r ddogfen hon:
- cyflwyno ymateb Llywodraeth Cymru i'r cynigion ar gyfer addysg uwch yn yr ymgynghoriad ar y Papur Gwyn
- ymgysylltu ymhellach â rhanddeiliaid ar fanylion technegol cynigion deddfwriaethol Llywodraeth Cymru.
Bydd yr ymatebion yn sail i waith mireinio ar y cynigion presennol gan gynnwys y ddeddfwriaeth arfaethedig.
Mae'n ymwneud â'r materion a ganlyn:
- cyflwyno dull diwygiedig o ddynodi cyrsiau addysg uwch at ddibenion derbyn cymorth statudol i fyfyrwyr
- trefniadau ar gyfer ei gwneud yn orfodol i roi cap ar ffioedd dysgu a chynlluniau ffioedd
- asesiad o ansawdd y ddarpariaeth addysg uwch
- sicrwydd ariannol a llywodraethu.