Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething wedi manylu sut y bydd dros £10m o gymorth yn trawsnewid gwasanaethau gofal llygaid yng Nghymru wrth i fesur perfformiad newydd gael ei gyhoeddi am y tro cyntaf heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Mehefin 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y mesur newydd ar gyfer amseroedd aros am ofal llygaid yn cael ei gyhoeddi er mwyn helpu i leihau amser aros a sicrhau bod y rhai sydd mewn mwyaf o berygl o ddioddef clefyd y llygaid yn cael y driniaeth a'r gofal rheolaidd sydd eu hangen arnynt.
 
I ategu'r mesur newydd mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu byrddau iechyd i fuddsoddi mewn ffyrdd newydd o ddarparu gwasanaethau a thechnoleg newydd. 

Dywedodd Mr Gething:

Ar hyn o bryd mae bron i 111,000 o bobl Cymru'n colli eu golwg, ac mae disgwyl i hyn ddyblu erbyn 2050. Rhaid gwella mynediad at wasanaethau a chyflymu diagnosis er mwyn sicrhau bod gwasanaethau gofal llygaid yn addas ar gyfer y dyfodol. 

Dydyn ni ddim am i bobl fod mewn perygl o golli eu golwg oherwydd bod rhaid iddyn nhw aros am amser hir am apwyntiad ar ôl cael asesiad cychwynnol. Dyna pam rydyn ni'n cyflwyno mesur perfformiad newydd gyda £10m o gyllid i drawsnewid y ffordd rydyn ni'n darparu gofal llygaid. 

Flwyddyn yn ôl i heddiw, lansiwyd ein gweledigaeth hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, Cymru Iachach, sy'n nodi sut mae angen i ni drawsnewid y ffordd rydyn ni'n darparu gwasanaethau i ddiwallu'r galw yn y dyfodol. Mae'r newidiadau hyn, a ddatblygwyd gydag offthalmolegwyr a'r trydydd sector, yn cynnwys RNIB Cymru, yn enghraifft ardderchog o'r weledigaeth a nodwyd yn Cymru Iachach.

Dywedodd Cyfarwyddwr RNIB Cymru Ansley Workman:

Rydym yn croesawu mesurau gofal llygaid newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer cleifion allanol GIG a oedd yn ceisio rhoi blaenoriaeth i gleifion ar sail eu risg glinigol. 

Ers blynyddoedd mae cleifion wedi bod yn dweud wrthym eu bod yn colli'r cyfle i gael triniaeth hanfodol oherwydd amseroedd aros hir, a hynny drwy gael eu canslo a'u hoedi. Gall hyn arwain at bobl yn colli eu golwg yn barhaol, a allai fod wedi cael eu hatal rhag cael gofal a thriniaeth amserol.  

Bydd gennym ddata ar gael yn awr sy'n dangos faint o bobl sy'n aros yn rhy hir ac yn caniatáu i ni weld gwir raddfa'r heriau sy'n ein hwynebu. Mae hwn yn gam mawr ymlaen i fyrddau iechyd. Dim ond drwy drawsnewid ein gwasanaethau gofal llygaid ac ymrwymiad i'r mesurau newydd y byddwn yn gallu atal pobl â chyflyrau y gellir eu trin rhag colli eu golwg yn ddiangen.

Mae'r canllawiau newydd yn ei gwneud yn ofynnol i wasanaethau llygaid mewn ysbytai gael gweithdrefnau yn eu lle i sicrhau bod pobl yn cael eu hasesu a'u trin gan y person mwyaf addas o fewn amser priodol yn glinigol. O ganlyniad dylai'r bobl sydd mewn mwyaf o berygl o glefyd y llygaid, sydd angen cael eu gweld yn sydyn yn sgil eu cyflwr, brofi llai o oedi.
 
Mae'r mesur newydd yn seiliedig ar flaenoriaeth a'r brys am ofal ar gyfer pob claf unigol. Y flaenoriaeth yw'r perygl o niwed sy'n gysylltiedig â chyflwr llygaid y claf os bydd dyddiad targed yr apwyntiad yn cael ei golli. Y brys yw pa mor fuan y dylid gweld y claf, gan ystyried ei gyflwr presennol a/neu y perygl y bydd y cyflwr yn gwaethygu. 

Cymru yw'r wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno mesur o'r fath ar gyfer cleifion gofal llygaid wrth ochr y targed presennol ar gyfer amser aros o'r atgyfeiriad i'r driniaeth. 

Darparwyd £3.3m gan Lywodraeth Cymru i alluogi byrddau iechyd i wneud y newidiadau angenrheidiol i fodloni'r canllawiau newydd. Mae hyn ar ben y £7m i gyflwyno system ddigidol newydd ar gyfer gofal llygaid mewn gwasanaethau gofal sylfaenol ac eilaidd ar draws Cymru. 

Bydd y system ddigidol newydd yn cynnwys atgyfeiriad electronig o bractisau optometreg cymunedol i adrannau llygaid mewn ysbytai i gysylltu'r holl system, gwella diogelwch a chyflymu diagnosis a thriniaeth.

Bydd y £3.3m o fuddsoddiad yn cael ei ddefnyddio i:

  • ehangu neu sefydlu gwasanaethau newydd yn y gymuned, er mwyn sicrhau bod pobl yn cael eu gweld yn y lleoliad mwyaf priodol a gan y person mwyaf priodol;
  • cyflwyno a datblygu rhith-glinigau;
  • hyfforddi staff fel bod modd i fwy o weithwyr proffesiynol roi diagnosis a thriniaeth.