Ddydd Iau, ymwelodd Hannah Blythyn, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol â Bae Colwyn i weld sut mae buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn helpu i roi hwb i swyddi a busnesau ac i adfywio canol y dref.
Gwelodd y Gweinidog sut mae buddsoddiad o £600,000 yn 7 Ffordd Abergele yn trawsnewid yr adeilad rhestredig yn ofod ar gyfer cyfarfodydd a swyddfeydd diwydiannau creadigol Cyngor Conwy, gan weithio gydag Ymddiriedolaeth Ddatblygu'r Gogledd.
Dywedodd Hannah Blythyn:
Rydyn ni wedi buddsoddi mwy na £2 miliwn mewn prosiectau i weddnewid adeiladau gwag ym Mae Colwyn yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig; yn ogystal â gofod swyddfeydd Ffordd Abergele, rydyn ni'n buddsoddi £1.4 miliwn mewn eiddo masnachol, er mwyn dechrau ailddefnyddio gofod masnachol a harddu adeiladau siopau canol y dref. Mae hyn yn rhan o raglan Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio.
Fe welais i sut mae buddsoddiad £6.7 miliwn Llywodraeth Cymru a Chyngor Conwy wrth y dŵr wedi helpu i wella'r prom yn ogystal â mynediad i'r traeth.
Dw i wedi gweld sut mae swyddfeydd newydd y cyngor yn dod â gweithwyr y cyngor yn ôl i ganol y dref; dw i wedi gweld safleoedd allweddol y mae angen eu hailddatblygu, fel Gwesty Imperial; a sut mae datblygiad Porth Eirias wedi gwneud gwahaniaeth yn lleol.
Mae buddsoddiad Llywodraeth Cymru ym Mae Colwyn yn rhan o'i strategaeth adfywio gyffredinol sydd wedi gweld buddsoddiad cyffredinol o fwy nag £800 miliwn ledled Cymru ers 2014.
Dywedodd y Cyng Louise Emery, Aelod o Gabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy:
Dw i wrth fy modd fy mod i wedi gallu dangos i'r Gweinidog y gwaith adfywio o fewn y dref, yr effaith gadarnhaol y mae wedi'i chael, a sut bydd cyllid Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio yn ein galluogi i barhau i adfywio'r dref.
Mae rhaglen flaenllaw Llywodraeth Cymru, Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio yn darparu £100 miliwn o gyllid cyfalaf ar draws Cymru dros dair blynedd i gefnogi prosiectau i adfywio canol trefi ac ardaloedd gerllaw.
Cefnogir y cyllid hwn gan amcangyfrif o £60 miliwn o leiaf gan sefydliadau a busnesau eraill, gan ddarparu, gyda'i gilydd, hwb o £160 miliwn i gymunedau ledled Cymru.