Mae ystadegau newydd a gyhoeddwyd heddiw yn dangos bod gwerth y nwyddau a allforiwyd o Gymru yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2019 wedi cyrraedd £17.7 biliwn, sy'n gynnydd o £1.2 biliwn (7.5%) o gymharu â'r flwyddyn ganlynol.
Mae'r ystadegau'n dangos bod Cymru wedi gweld y pedwaredd cynnydd mwyaf yng ngwerth allforion yn y DU yn ystod y cyfnod hwnnw.
Gwelwyd cynnydd o £829m (8.3%) mewn allforion i wledydd yr UE, a chynnydd o £400m (6.2%) mewn allforion i wledydd nad ydynt yn yr UE, o gymharu â'r flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2018. Roedd allforion i'r UE yn cyfrif am 61.1% o holl allforion Cymru, o gymharu â 50.3% ar gyfer y DU.
I'r Almaen yr aeth y rhan fwyaf, wrth iddi dderbyn 17.8% o allforion.
Roedd Offer Peiriannau a Thrafnidiaeth yn parhau i gyfrif am y rhan fwyaf o allforion o Gymru, sef 49.7% yn yr achos hwn.
Dywedodd y Gweinidog Cysylltiadau Rhyngwladol, Eluned Morgan:
"Rwy'n falch iawn gweld bod gwerth y nwyddau sy'n cael eu hallforio o Gymru wedi cynyddu mwy na £1 biliwn yn ystod y flwyddyn hyd at fis Mawrth eleni. Ond gwyddom fod llawer mwy i'w wneud o hyd, yn enwedig yn y cyfnod hwn o ansicrwydd economaidd.
"Dyna pam bod fy Adran newydd, sef yr Adran Cysylltiadau Rhyngwladol a Masnach yn canolbwyntio ar hyrwyddo busnesau Cymru ar lefel ryngwladol, a'u cefnogi i werthu mewn marchnadoedd newydd yn ogystal â marchnadoedd presennol. Bydd ein strategaeth ryngwladol newydd, a gaiff ei lansio cyn yr haf, yn nodi beth yn fwy sydd angen i ni ei wneud i werthu Cymru i weddill y byd, i sicrhau mwy o ffyniant economaidd i bobl a busnesau ein gwlad.
"Mae'r ystadegau'n dangos bod 61.1% o allforion Cymru yn mynd i wledydd yr UE, o gymharu â 50.3% ar gyfer y DU - mwy o brawf ein bod yn fwy dibynnol na'r DU gyfan ar fasnachu â'n cymdogion Ewropeaidd. Dyna pam ei bod yn hollol hanfodol nad ydym yn ymadael â'r UE heb gytundeb."
Dywedodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates:
"Yn yr hinsawdd ryngwladol hon, mae'n bwysicach nag erioed ein bod yn cynnal cysylltiadau agos gydag un o'n marchnadoedd pwysicaf.
“Bydd Brexit, os bydd yn digwydd, beth bynnag yw ei ffurf, yn golygu newid sylfaenol yn y ffordd y mae nifer o'n cwmnïau yn gweithredu. Rydym yn edrych ar yr holl opsiynau ac yn defnyddio pob adnodd posibl i sicrhau y gall busnesau o bob maint ddatblygu eu marchnadoedd allforio a chael mynediad at y cyllid sydd ei angen arnynt i'w helpu i addasu a ffynnu.
"Cyhoeddais yn ddiweddar y byddai ein pecyn cymorth cynhwysfawr i fusnesau yn cael hwb o £121 miliwn yn ychwanegol drwy Fanc Datblygu Cymru. Rydym am helpu busnesau i gynnal momentwm, i ddatblygu ac i fuddsoddi yn y dyfodol wrth iddynt geisio goresgyn heriau Brexit."