Mae gwaith ymchwil newydd yn dangos fod 58% o'r genedl eisoes o'r farn ei bod yn erbyn y gyfraith i gosbi plant yn gorfforol yng Nghymru.
Roedd yr un gwaith ymchwil, a gafodd ei comisiyni gan Llywodraeth Cymru, yn dangos bod dim ond 35% o pobol sy’n cytuno bod angen smacio plentyn weithiau.
Yn ogystal roedd yr ymchwil yn dangos fod y lefel y gefnogaeth am smacio yn llai fyth ymhlith y rheini sy'n ysgwyddo cyfrifoldebau gofalu (rhieni, gwarcheidwaid, aelodau o'r teulu) dros blant 7 oed neu'n iau – dim ond 28% o'r rheini oedd yn cytuno â'r datganiad 'bod angen smacio plentyn weithiau'.
Roedd y canfyddiadau hefyd yn dangos mai dim ond 24% o'r rheini sy'n 16-34 oed oedd yn debygol o gytuno â smacio.
Mae Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a gyflwynodd y Bil o'r farn y bydd newid y gyfraith yn sicrhau eglurder ar y mater i'r cyhoedd. Dywedodd:
“Rhaid inni roi terfyn ar gosbi plant yn gorfforol. Mae'r ymchwil hwn yn dangos bod y rhan fwyaf o bobl eisoes yn credu bod hyn yn wir. Bydd y Mesur yn rhoi eglurder yn y maes hwn, i rieni, gofalwyr, plant a gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda theuluoedd.
Mae yna gonsensws cynyddol yn rhyngwladol y dylai'r gyfraith wahardd cosbi plant yn gorfforol. Mae pum deg pedwar o wladwriaethau eraill eisoes wedi deddfu yn ei gylch. Fy ngobaith i yw y bydd Cymru yn ychwanegu at y nifer hwn yn fuan."
Cafodd yr ymchwil ei chynnal gan Beaufort Research i gadarnhau agweddau'r cyhoedd at gosbi plant yn gorfforol a'u hymwybyddiaeth o'r Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru).
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wrthi'n craffu ar y Bil ar hyn o bryd, a'i nod yw rhoi terfyn ar gosbi plant yn gorfforol trwy diddymu yr amddiffyniad o 'cosb resymol' mewn perthynas â throseddau sy'n bodoli eisoes, sef ymosod a churo.
Ar hyn o bryd, mae rhieni'n cael defnyddio amddiffyniad cosb resymol yn erbyn cyhuddiad o ymosodiad cyffredin, ond nid yn erbyn cyhuddiadau mwy difrifol, er enghraifft, cyhuddiad o wir niwed corfforol.
Mae Llywodraeth Cymru'n bwriadu gofyn yr un cwestiynau eto yn rheolaidd. Bydd y canfyddiadau'n cael eu defnyddio fel llinell sylfaen i fonitro ymwybyddiaeth a barn y cyhoedd wrth i'r ymgyrch codi ymwybyddiaeth fynd yn ei blaen.