Mae gan Lywodraeth Cymru fframwaith llywodraethu cadarn mewn grym i gefnogi'r gwaith o gyflawni ein rhaglen o ddiwygiadau addysgol o dan genhadaeth ein cenedl.
Manylion
Mae ein cynllun gweithredu ar gyfer addysg, sef Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein Cenedl, yn amlinellu'r ffordd y bydd y system ar gyfer ein hysgolion yn symud ymlaen dros y cyfnod hyd at 2022. Prif nodau’r cynllun yw codi safonau, lleihau’r bwlch cyrhaeddiad a chyflwyno system addysg sy’n destun balchder.
Mae gennym fframwaith llywodraethu cadarn ar waith i gefnogi'r gwaith o gyflawni ein rhaglen o ddiwygiadau addysgol o dan genhadaeth ein cenedl i gefnogi Gweinidogion Cymru mewn perthynas â'r penderfyniadau a wnaed o dan y raglen waith.
Mae ein Bwrdd Newid yn sicrhau bod y rhaglen yn cael ei goruchwylio'n strategol, gan roi sylw penodol i'n prif feysydd sydd i'w diwygio, sef y cwricwlwm, dysgu proffesiynol ac atebolrwydd. Mae'r Bwrdd yn gyfrifol am gadarnhau argymhellion a wnaed mewn perthynas â phenderfyniadau am genhadaeth ein cenedl.
Mae ein Bwrdd Cyflawni'n rheoli busnes gweithredol y rhaglen ac yn ei symud ymlaen, yn monitro'r hyn a gyflawnir a'r perfformiad, gan sicrhau bod prosesau cadarn yn cael eu dilyn. Mae'n gwneud argymhellion mewn perthynas â phenderfyniadau ar genhadaeth ein cenedl. Mae'r Bwrdd Cyflawni'n nodi ac yn awgrymu camau i leihau risgiau sy'n ymwneud â'n rhaglen.
Mae ein Grŵp Rhanddeiliaid Strategol yn cynnig cyngor i Lywodraeth Cymru ac yn cyfathrebu negeseuon allweddol ag aelodau o'i gorff cynrychioladol. Mae gan y Grŵp is-grŵp Plant a Phobl Ifanc i ystyried safbwyntiau plant a phobl ifanc yn benodol yn ystod y daith i ddiwygio addysg.
Mae ein Grŵp Cynghori Annibynnol yn cynnig cyngor arbenigol annibynnol i'n Bwrdd Newid, gan gynnwys adborth technegol, ac mae'n cysylltu â'n Bwrdd Cyflawni. Mae'r Grŵp yn gweithredu fel cyfaill beirniadol.
Y tu allan i'n rhaglen lywodraethu, mae gennym hefyd Grŵp Cyflawni Addysg Strategol. Rôl y Grŵp hwnnw yw gwarchod y gwaith o gyflawni cenhadaeth ein cenedl yn effeithiol, a gweithgarwch sy'n cefnogi'r uchelgais i ddatblygu diwylliant o gydweithredu ar draws y Llywodraeth yng Nghymru a'r haen ganol.