Mae diwydiant ynni'r llanw yn y Gogledd wedi cael hwb sylweddol heddiw ar ôl i Lywodraeth Cymru fuddsoddi £12.6m o gyllid yr UE yng nghwmni datblygu Minesto ar Ynys Môn.
Bydd y cyllid hwn yn cefnogi cam nesaf prosiect arloesol y cwmni lle bydd barcutiaid tanddwr yn cynhyrchu ynni o lif y llanw a'r môr.
Dros y blynyddoedd nesaf bydd Minesto yn datblygu, gosod a defnyddio dyfais well sy'n manteisio ar dechnoleg ail-genhedlaeth yn safle Dyfnder Caergybi, sydd 6km oddi ar arfordir Ynys Môn.
Bydd y buddsoddiad hefyd yn helpu i ehangu capasiti gweithgynhyrchu a chydosod y cwmni yn y Gogledd.
Mae'r prosiect yn rhan o gynllun tymor hirach i ehangu safle Dyfnder Caergybi i fod yn aráe ynni'r llanw masnachol 80 megawatt, sydd â'r potensial i gynhyrchu digon o ynni ar gyfer tua 60,000 o gartrefi.
Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit, Jeremy Miles, sy'n gyfrifol am oruchwylio cronfeydd Ewropeaidd yng Nghymru:
"Mae cynhyrchu ynni o ffynonellau adnewyddadwy yn hanfodol ar gyfer creu economi carbon isel a chyfrannu at her fyd-eang y newid yn yr hinsawdd, ac ar ben hynny mae'n rhoi cyfle gwirioneddol i Gymru fod ar y blaen mewn diwydiant newydd sylweddol.
"Mae'r buddsoddiad hwn yn dangos pwysigrwydd sicrhau cyllid cyfatebol gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gefnogi swyddi a thwf yng Nghymru ar ôl i ni ymadael â'r Undeb Ewropeaidd.”
Ken Skates meddai:
“Bydd y buddsoddiad heddiw yn codi gwaith Minesto yn y Gogledd i'r lefel nesaf. Mae hefyd yn newyddion da ar gyfer swyddi a'r gadwyn gyflenwi leol, ac yn enghraifft wych o'r ffordd y mae Cymru'n elwa ar gronfeydd yr UE."
Sefydlodd Minesto bencadlys ar Ynys Môn yn 2015 ar ôl cael cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, ac yn ddiweddar cwblhaodd brofion llwyddiannus o'r dechnoleg 'barcud' tanddwr a adeiladwyd ac a osodwyd yn y Gogledd.
Dywedodd Dr Martin Edlund, Prif Weithredwr Minesto:
"Dyma gyfraniad allweddol i fasnacheiddio’n technoleg, ac arwydd cryf o ymrwymiad ar ran Llywodraeth Cymru.
"Rydyn ni’n falch o weld ein bod yn rhannu uchelgais i ddiwydiannu ynni'r llanw yng Nghymru, er mwyn gallu cynhyrchu ynni glân ar raddfa fawr yn lleol o ffrydiau llanw Cymru. Drwy wneud hynny, byddwn yn gallu datblygu diwydiant tymor hir yn y Gogledd."
Dros y degawd diwethaf, mae prosiectau wedi'u hariannu gan yr UE yng Nghymru wedi creu dros 48,000 o swyddi a 13,000 o fusnesau newydd, gan helpu 86,000 o bobl yn ôl i gael gwaith.