Mae'r prosiect hwn yn edrych i weld pa ffactorau sy'n egluro orau'r farn am wasanaethau awdurdodau lleol.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Canfyddiadau allweddol
Roedd yr Arolwg Cenedlaethol yn cynnwys nifer o gwestiynau ynghylch barn pobl am y gwasanaethau sy'n cael eu darparu gan eu hawdurdod lleol.
- Dywedodd 57% bod eu hawdurdod lleol yn darparu gwasanaethau o ansawdd uchel.
- Doedd bron i chwarter (23%) ddim yn credu bod eu hawdurdod lleol yn darparu gwasanaethau o ansawdd uchel, a doedd dau o bob pump (37%) ddim yn credu bod yr awdurdod yn dda am hysbysu pobl leol sut mae'n perfformio.
- Doedd un mewn pump (19%) ddim yn credu bod eu hardal leol yn cael ei gynnal yn dda.
- Doedd saith o bob deg (70%) ddim yn credu bod modd iddynt ddylanwadu ar benderfyniadau sy'n effeithio ar eu hardal leol.
Ar ôl ystyried ffactorau eraill, canfuwyd bod modd egluro boddhad â gwasanaethau awdurdodau lleol drwy agweddau at gynnal yr ardal leol - ond hefyd drwy farn am y ffordd y mae awdurdodau lleol yn dosbarthu gwybodaeth am eu perfformiad. Mae hyn yn awgrymu bod rhoi gwybodaeth i bobl yn hanfodol ar gyfer codi lefelau boddhad.
Adroddiadau
Boddhad â gwasanaethau awdurdodau lleol (Arolwg Cenedlaethol Cymru) Ebrill 2012 i Mawrth 2013 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: arolygon@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.