Jeremy Miles AC, y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit
Ar 9 Mai 2019, bûm yng nghyfarfod y Cyd-Bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau’r UE).
Rhoddwyd sylw yn y cyfarfod i’r negodiadau ynghylch ymadawiad y DU â’r UE gan gynnwys trafodaethau rhwng llywodraeth y DU a’r Wrthblaid swyddogol yn San Steffan. Bu’r Pwyllgor hefyd yn trafod rôl y gweinyddiaethau datganoledig yng ngham nesaf y negodiadau a materion domestig, gan gynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â fframweithiau cyffredin yn sgil cyhoeddi Dadansoddiad diwygiedig o’r Fframweithiau Cyffredin ar 4 Ebrill.
Daliais ati i bwyso ar Lywodraeth y DU i gydnabod bod angen cyfaddawdu a symud oddi wrth ei llinellau coch trychinebus er mwyn dod i gytundeb a fydd yn gallu ennyn cefnogaeth Senedd y DU. Ategais safbwynt y Cynulliad Cenedlaethol y dylai unrhyw gytundeb adlewyrchu’r blaenoriaethau a nodir yn Diogelu Dyfodol Cymru ac, os na fydd modd dod i gytundeb o’r fath yn y Senedd, y bydd rhaid i’r bobl benderfynu ar y ffordd ymlaen.
O ran cam nesaf y negodiadau, nodais yn glir fod rhaid i’r modd yr ymdrinnir â’r berthynas yn y dyfodol barchu’r ffaith y bydd y ffordd y mae’r berthynas yn y dyfodol rhwng y DU ar UE yn cael ei rhoi ar waith ac yn gweithredu, mewn sawl maes, o fewn cymhwysedd y gweinyddiaethau datganoledig. O’r herwydd, mae’n fater o reidrwydd cyfansoddiadol i’r gweinyddiaethau datganoledig fod yn rhan o’r broses o gytuno ar safbwyntiau sy’n gweithio i’r DU gyfan. Pwysleisiais na ddylid cyflwyno safbwyntiau’r DU yn yr UE fel rheol heb gytundeb y gweinyddiaethau datganoledig o ran y materion hynny sydd o fewn ein cymhwysedd. Galwais hefyd am gynrychiolaeth i’r gweinyddiaethau datganoledig yn nhimau negodi’r DU.
Gofynnais am ymrwymiad pendant y bydd Llywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig yn gweithio gyda’i gilydd er budd y DU gyfan.