Rydym am leihau arferion yfed peryglus a niweidiol ac rydym wedi cyflwyno isafbris uned ar gyfer gwerthu alcohol.
Cynnwys
Pam cyflwyno isafbris ar gyfer alcohol?
Mae'r niwed a achosir gan alcohol yn fater difrifol o ran iechyd y cyhoedd, ac yn arwain at dros 500 o farwolaethau bob blwyddyn. Mae'n effeithio ar iechyd unigolion, y GIG, yr economi a theuluoedd.
Rydym wedi cyflwyno isafbris am alcohol i helpu i leihau'r niwed. Mae'r polisi yn targedu yfed niweidiol ac yn canolbwyntio ar ddiodydd rhad, cryf iawn.
Efallai y byddwch yn gweld bod pris rhai diodydd wedi cynyddu. Y rhain yw’r diodydd alcoholig oedd yn arfer cael eu gwerthu yn rhatach na'r isafbris.
Pasiwyd y gyfraith sy'n ein galluogi i osod isafbris uned ar 9 Awst 2018. Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris Alcohol) (Cymru) 2018 yw'r gyfraith hon.
Cytuno ar yr isafbris am bob uned
Gwnaethom ymgynghori ar isafbris o 50c am bob uned o alcohol.
Cytunodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar isafbris uned o 50c. Cafodd ei gyflwyno ar 2 Mawrth 2020.